Neidio i'r prif gynnwy

Therapi teuluol i helpu adsefydlu troseddwyr

Dr Nagi

Mae ymyrraeth deuluol yn cael ei defnyddio i helpu troseddwyr ag anhwylder meddwl i adsefydlu a gwella.

Mae'r dull a adwaenir fel seicoaddysg i deuluoedd wedi'i ddefnyddio'n llwyddiannus yn ystod cynllun peilot a gynhaliwyd mewn uned iechyd meddwl diogelwch isel ym Mae Abertawe.

Nawr bydd y gwaith yn cael ei addasu i'w ddefnyddio mewn gwasanaethau iechyd meddwl fforensig eraill, fel carchardai a thîm argyfwng. Mae ganddo hefyd y potensial i gael ei ddefnyddio mewn unedau diogelwch canolig a thimau fforensig cymunedol.

Mae Dr Claire Nagi yn seicolegydd fforensig ymgynghorol ac yn arweinydd proffesiynol Bae Abertawe ar gyfer iechyd meddwl ac anhwylder dysgu, neu IMAD, seicoleg.

Meddai: “Mae ymchwil rhyngwladol yn dangos bod therapi teuluol yn cael ei ddefnyddio’n gymharol anaml o fewn gwasanaethau iechyd meddwl fforensig oherwydd problemau’n ymwneud â’i weithrediad, megis diffyg staff sydd wedi’u hyfforddi mewn therapi teulu ffurfiol.

“Er mwyn pontio’r bwlch hwn yn y gwasanaeth, datblygwyd Rhaglen Seicoaddysg i’r Teulu ar gyfer Lleoliadau Diogelwch Isel – F-PEPSS yw’r acronym cyffredin Saesneg – ar gyfer unigolion sy’n cael eu cartrefu mewn lleoliad diogelwch isel a’u teuluoedd.

“Mae’n ennyn diddordeb y teulu sydd weithiau’n cael profiadau negyddol o wasanaethau iechyd meddwl. Rydyn ni'n datblygu cynghrair gadarnhaol gyda nhw fel nad ydyn nhw'n teimlo eu bod wedi'u hallgáu, ac yna maen nhw'n fwy tebygol o ymgysylltu â'n gwasanaethau yn y dyfodol.

“Mae’n rhoi’r cyfle i deuluoedd efallai ofyn cwestiwn heriol i’r claf mewn lleoliad diogel, na fyddent efallai wedi’i ofyn o’r blaen.

“O ystyried bod perthnasau’n cael eu canfod i chwarae rhan hollbwysig yn y broses o ddychwelyd carcharorion yn llwyddiannus i’r gymuned, rydyn ni’n meddwl y gallai fod o fudd i droseddwyr nad ydyn nhw ag anhwylder meddwl mewn carchardai.”

Mae’r gwaith gan seicolegwyr fforensig BIPBA – Dr Nagi a’r Athro Jason Davies – yn dangos tystiolaeth o ymarferoldeb y rhaglen hynod strwythuredig hon, yn seiliedig ar adborth gan staff, gofalwyr a theuluoedd o fewn y gwasanaeth.

Mae’r sesiynau teulu, sy’n para hyd at 90 munud, yn cael eu cyflwyno mewn ward neu gartref teuluol, gyda dau aelod o staff, ac yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth, meithrin dealltwriaeth a rheoli risg ac atgwympo.

Ychwanegodd Dr Nagi: “Dywedodd teuluoedd eu bod wedi dysgu gwybodaeth newydd am aelod o’u teulu, yn enwedig ynghylch y cysylltiadau rhwng eu hiechyd meddwl a’u hymddygiad troseddol.

“Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried bod gan yr holl gyfranogwyr dan sylw o leiaf un euogfarn flaenorol am drosedd dreisgar, a bod y rhan fwyaf o’r teuluoedd wedi bod yn ddioddefwyr ymddygiad ymosodol yn y gorffennol.

“Dywedodd y staff a gymerodd ran yn y rhaglen nifer o fanteision cymryd rhan, gan gynnwys gwybodaeth a gafwyd gan deuluoedd am arwyddion rhybudd cynnar a ffactorau risg sy’n arwain at eu hymddygiad troseddol.

“Roedd hefyd yn caniatáu iddyn nhw ddatblygu perthynas well gyda’r teulu, rhoi sicrwydd a sicrhau eu cefnogaeth.”

Mae staff yn bwriadu ehangu rhaglen F-PEPSS i garchardai a thîm argyfwng y flwyddyn nesaf, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a gwasanaeth diogelwch G4S

Mae’r gwaith wedi’i rannu â chydweithwyr ledled y DU mewn cynhadledd a gynhaliwyd gan Gymdeithas Seicolegol Prydain.

Yn y llun: Dr Nagi mewn cynhadledd

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.