Neidio i'r prif gynnwy

Siwrne Alys i ymddangos ar raglen ddogfen ar y Teledu

Dancing girl Alys jumping 

Bydd rhaglen ddogfen i'w weld y mis nesaf yn sôn am stori merch ifanc a chollodd coes mewn damwain trychinebus.

Anafodd Alys Davies ei choes mewn damwain â pheiriant torri lawnt yn ei chartref yn Rhydaman, ac roedd angen trychiad o dan y pen-glin.

Er gwaethaf yr anaf a newidiodd ei bywyd, mae hi wedi dychwelyd i ddawnsio ar ôl cael coes prosthetig yn y Canolfan Aelodau a Chyfarpar Artiffisial yn Ysbyty Treforys.

Bydd ei stori hi'n cael ei hadrodd pan fydd yn cael ei darlledu ar S4C ar ddydd Sul, 10 Rhagfyr.

Dywedodd yr uwch brosthetydd Paul Drayton: “Roedd dychwelyd i ddawnsio yn bwysig iawn i Alys felly roedd angen i ni ddysgu rhai o'i symudiadau dawns i'w helpu i gyflawni ei nodau; gwnaeth hi fi i wneud y Macarena yn y Ganolfan.

“Mae Alys wedi bod yn ymdopi’n rhyfeddol o dda. Mae hi'n ôl i wneud y pethau mae hi'n eu caru sy'n wych i'w gweld”.

Mae criw teledu wedi ei dilyn hi ar ei siwrne o'r Uned ALAC i'r nyrsys chwarae ar y ward plant.

Bydd y Rhaglen Gymraeg, 'Drych: Stori Alys', yn cael is-deitlau a bydd hefyd ar gael i wylio ar BBC iPlayer a S4C wedi hynny.

Dywedodd Nia, mam Alys: “Cyn y ddamwain yn amlwg doedden ni ddim yn gwybod dim am beth oedd ar gael iddi.

“Fe ddaethon ni i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn gyntaf ac yna’r uned dibyniaeth fawr, ac yna i ALAS a chwrdd â’r tîm cyfan ac roedd pawb yn gwneud i ni deimlo’n gyfforddus – maen nhw wedi bod yn anhygoel. Mae'r tîm wedi bod yn rhoi heriau iddi ac yn olrhain ei chynnydd, ac yn rhoi nodau iddi anelu atynt.

“Dywedodd hi hyd yn oed ei bod wedi mwynhau ei hamser yn yr ysbyty oherwydd bod pawb mor gyfeillgar. Mae pawb wedi bod yn gofalu am les ac maen nhw wedi bod mor barod i helpu”.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.