Neidio i'r prif gynnwy

Sêr chwaraeon yn cefnogi galwad rhithwir i bobl ifanc gael ymarfer corff

Non stanford

Mae rhai meddygfeydd meddygon teulu yn Abertawe yn dilyn llyfr Joe Wicks's drwy gynnig cynghorion rhithwir ar ffitrwydd i bobl ifanc.

Cododd y guru ffitrwydd i amlygrwydd yn ystod y cyfyngiadau symud drwy ei sesiynau YouTube, cam sydd wedi ysgogi'r clwstwr i lansio rhaglen a gynlluniwyd i annog pobl ifanc 11 i 16 oed, na fyddent fel arall yn ystyried cymryd rhan mewn chwaraeon neu fwynhau ymarfer corff yn rheolaidd, i wneud hynny drwy'r rhyngrwyd.

Mae'r cynllun, a adwaenir fel Prosiect Pobl Egnïol Gogledd Abertawe (SNAPP), yn ffrwyth partneriaeth rhwng Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe, clystyrau Cwmtawe a Llwchwr (grwpiau o feddygfeydd yng Nghwm Tawe isaf ac ardaloedd Llwchwr) ynghyd ag adran chwaraeon ac iechyd Dinas a Sir Abertawe a Phrifysgol Abertawe. Mae'r prosiect wedi'i ariannu ar y cyd gan Gyllid Gofal Integredig Gorllewin Morgannwg a chyllid gan glystyrau Cwmtawe a Llwchwr.  

Mae'r gwasanaeth rhad ac am ddim, sydd ar agor o 1 Mehefin, yn cynnig cymorth i bobl ifanc am hyd at 12 wythnos i'w helpu i ddod yn fwy egnïol, ac archwilio ffyrdd y gallant deimlo'n well amdanyn nhw eu hunain.

Bydd mentor yn cydweithio â nhw – naill ai ar-lein neu ar y ffôn – i ddatblygu cynllun personol i'w ddilyn, a rhoi cymaint neu cyn lleied o gymorth ag sydd ei angen arnynt dros y rhaglen.
Bydd offer chwaraeon hefyd ar gael i unigolion os bydd angen.

Mae sêr y byd chwaraeon, fel y driathletwraig Olympaidd Non Stanford ac seren rugby Leigh Halfpenny, yn cefnogi'r symud drwy recordio negeseuon fideo byr o anogaeth.

Dywedodd Non Stanford, a fagwyd yn Abertawe: "Mae chwaraeon a hamdden wedi chwarae rhan enfawr yn fy mywyd, nid yn unig yn broffesiynol, ond hefyd ar lefel bersonol o ddydd i ddydd.

"Mae cadw'n heini mor bwysig nid yn unig i'ch lles cyffredinol ond hefyd i'ch lles meddyliol. Mae'n lleihau straen ac yn gwella hyder ac mae'n ffordd wych o gwrdd â phobl newydd. Fy awgrym pennaf yn ystod y cyfyngiadau symud yw dod yn heini a mwynhau'r awyr agored, boed hynny'n rhedeg, cerdded neu feicio. "

Leigh Dywedodd seren rygbi Cymru, Leigh Halfpenny: "Mae'n wych gweld prosiect lleol fel hwn yn cael ei sefydlu i helpu pobl ifanc i fod yn fwy egnïol.

"Mae'n bwysig iawn i bobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon gan fod cymaint o fanteision i'w hiechyd. Mae chwaraeon nid yn unig yn dda ar gyfer gwella eich iechyd corfforol ond hefyd yn gwella eich iechyd meddwl, yn helpu i leihau pryder ac yn magu hunan-barch a hyder. "

Hefyd yn rhoi benthyg ei gefnogaeth i'r prosiect dywedodd Kristian Touze, pencampwr bocsio pwysau uwch Cymru yn Abertawe: "Allwn ni ddim ennill teitlau ond gall pawb ddod yn bencampwr iddyn nhw eu hunain pan ddaw hi'n fater o gadw'n heini ac iach.

"Mae ond yn cymryd 60 munud o ymarfer cymedrol y diwrnod i gadw’n heini a does dim rhaid i chi wthio eich hun i'r terfynau, gallwch chi gynyddu'r dwysedd yn raddol a'r newyddion da yw, mae'n dod yn haws i chi ei wneud.

"Mae'r manteision yn niferus, nid yn unig byddwch yn teimlo'n fwy heini, ac mae ymarfer corff rheolaidd yn wych ar gyfer iechyd meddwl."

Dywedodd Amy Meredith-Davies, Rheolwr Partneriaethau Iechyd a Lles ar gyfer SCVS: "Rydym yn hynod gyffrous o fod yn lansio'r prosiect hwn mewn partneriaeth â chlystyrau Cwmtawe a Llwchwr. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw gweithgarwch corfforol nid yn unig ar gyfer gwella iechyd corfforol ond hefyd ar gyfer gwella lles meddyliol.

"Mae ein ffocws drwy'r prosiect hwn yn ymwneud â chefnogi pobl ifanc i fod yn fwy egnïol a gwella eu lles meddyliol. I ni, nid yw'n ymwneud â chreu'r seren chwaraeon nesaf, mae'n ymwneud â gweithio gyda phobl ifanc, eu cefnogi a'u hysgogi i gyrraedd eu nodau, beth bynnag ydynt!

"Oherwydd y sefyllfa bresennol rydym wedi gorfod edrych ar ffyrdd newydd o allu cyflawni'r prosiect ac rydym yn hyderus y bydd ein cynlluniau newydd yn ein galluogi i gefnogi pobl ifanc yn y ffordd orau bosibl. Gyda phwysau mesurau COVID a’r cyfyngiadau symud, nid yw erioed wedi bod yn bwysicach dod o hyd i ffyrdd newydd o gefnogi pobl ifanc. "

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Emma Crocker, cydlynydd prosiect SNAP ar 07943 189233 neu e-bostiwch emma_crocker@scvs.org.uk neu dilynwch ni ar Instagram @snapproject1
I wneud atgyfeiriad ewch i https://www.scvs.org.uk/forms/snap-project-rf
 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.