Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect gwaith cartref yn dod â hwyl y Nadolig

Prif lun: Addurno coeden Nadolig dan do yn Hosbis Ty Olwen.

 

Does dim rhaid i addurniadau Nadolig gostio’r ddaear – a dweud y gwir maen nhw’n gallu helpu’r blaned a rhoi gwen ar wynebau.

Mae'r prawf wedi'i ddarparu gan ddisgyblion mewn un ysgol gynradd yn Abertawe a wnaeth addurniadau tymhorol ar gyfer Hosbis Tŷ Olwen yn Ysbyty Treforys.

Gosodwyd y prosiect gwaith cartref ar gyfer disgyblion Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw gerllaw, gyda rheol lem mai dim ond deunyddiau oedd i fod ar gyfer y bin ailgylchu y gallent eu defnyddio.

Dynion eira yn gwenu a globau eira wedi'u gwneud o boteli plastig, a chlychau arian o ffoil wedi'i ddefnyddio a toppers coed anhygoel oedd y canlyniad.

Yna defnyddiodd disgyblion Isabella, Lily a Cadi a’r staff Dawn White a Carly McDaid, dirprwy bennaeth, nhw i addurno y tu mewn a’r tu allan i’r hosbis.

Hefyd rhoddwyd addurniadau Nadolig a wnaed gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw fel rhan o brosiect gwaith cartref ar goed y tu allan i Hosbis Tŷ Olwen.

 

BIPBA

Dywedodd Mrs White: “Gofynnodd ffrind i mi, Karren Roberts, rheolwr ward Tŷ Olwen, a allem ni wneud ychydig o addurniadau ar gyfer y goeden Nadolig y tu allan. Felly fe benderfynon ni ei osod fel prosiect gwaith cartref i wneud addurniadau gan ddefnyddio nwyddau wedi’u hailgylchu.

“Fel y gwelwch, cawsom ein syfrdanu gan yr holl waith caled a wnaeth y plant o'r dosbarth derbyn i flwyddyn chwech.

“Roedd yn bleser ymweld â Thŷ Olwen, mae’r plant mor ddiniwed a llawn bywyd ac wedi cyffroi’n lân i ddod i addurno’r coed tu fewn a thu allan i Dŷ Olwen.”

Dywedodd Helen Martin, Rheolwr Cefnogi Gwirfoddolwyr Tŷ Olwen: “Roeddem wrth ein bodd o weld faint o addurniadau hyfryd oedd wedi’u gwneud gan ddefnyddio eitemau oedd wedi’u hailgylchu.

“Cafodd hyd yn oed rhai o’r llwyni y tu allan eu gweddnewid ac mae ein mynedfa yn edrych mor Nadoligaidd a chroesawgar.”

Mwynhaodd y plant yr ymweliad gymaint eu bod yn gobeithio dychwelyd yn fuan i ganu carolau Nadolig i staff a chleifion.

Roedd addurniadau wedi'u gwneud o ddeunyddiau i'w hailgylchu hefyd yn cael eu hongian ar lwyni wrth fynedfa Tŷ Olwen.

BIPBA

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.