Neidio i'r prif gynnwy

Penodi Cwnsler y Brenin blaenllaw i oruchwylio adolygiad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Mae Cwnsler y Brenin blaenllaw wedi'i phenodi i oruchwylio adolygiad annibynnol o wasanaethau mamolaeth a newydd-anedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. 

Bydd Margaret Bowron CB yn cadeirio Panel Goruchwylio annibynnol a fydd yn goruchwylio’r Adolygiad ac yn craffu’n annibynnol ar yr argymhellion sy’n deillio o’r Adolygiad, a’r camau gweithredu sydd eu hangen i roi’r argymhellion ar waith, yn erbyn cerrig milltir y cytunwyd arnynt.

Wedi'i lleoli yn 1 Crown Office Row yn Llundain, gyda'i henw da amlycaf ym maes Cyfraith Iechyd, mae Margaret Bowron yn CB uchel ei pharch gyda dros ddeugain mlynedd o brofiad. Mae hi ei hun yn arbenigwr mewn materion cyfreithiol yn ymwneud â gofal iechyd ac yn Gyfryngwr hyfforddedig. Mae ganddi brofiad sylweddol o actio mewn achosion sy'n ymwneud ag anaf i'r ymennydd a gafwyd yn sgil genedigaeth.

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae Margaret Bowron wedi cael ei chyfarwyddo mewn nifer o gamau grŵp gan gynnwys honiadau yn ymwneud â gynaecolegwyr yng Ngogledd Orllewin a De Orllewin Lloegr.

Mae ganddi arbenigedd helaeth iawn ar y materion clinigol dan sylw a’r effaith ddinistriol ar gleifion pan aiff pethau o chwith ac felly mae’n gymwys iawn i weithredu’n annibynnol heb ofn na ffafr, gan ddilyn y dystiolaeth mewn ffordd wrthrychol a thosturiol. 

Wrth wneud sylw am ei phenodiad, dywedodd Margaret Bowron:

“Rwy’n falch iawn o fod wedi cael cais i ymgymryd â rôl Cadeirydd y Panel Goruchwylio a fydd yn goruchwylio’r Adolygiad Annibynnol o wasanaethau mamolaeth a newydd-anedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.  Mae'n hanfodol bwysig bod defnyddwyr gwasanaethau a'r boblogaeth ehangach yn ymddiried yn y gwasanaethau hyn ac rwy'n ymwybodol y bu llawer o ddadlau pryderus yn ddiweddar ynghylch y gwasanaethau hyn ym Mae Abertawe.

“Byddaf yn cyhoeddi aelodaeth y Panel Goruchwylio yn y dyfodol agos a bydd yr aelodau’n cael eu penodi gennyf i.  Ni fydd y Bwrdd Iechyd yn chwarae unrhyw ran yn y penodiadau hynny.  Yn ogystal, bydd y Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer yr Adolygiad yn cael ei ystyried gan y Panel Goruchwylio ac yn cael ei ddiwygio er mwyn galluogi adolygiad cadarn o’r gwasanaethau mewn modd sy’n caniatáu i wersi angenrheidiol gael eu dysgu ac i fod yn hyderus y bydd y Bwrdd Iechyd yn medru darparu gofal diogel yn y dyfodol.”

Wrth wneud sylwadau ar benodiad Margaret Bowron CB, dywedodd Emma Woollett, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:

“Mae Margaret Bowron CB yn dod ag annibyniaeth lwyr i’r broses adolygu hon ac rwy’n ddiolchgar iddi am ymgymryd â’r dasg bwysig hon.  Er mwyn cadarnhau annibyniaeth y broses, mae Margaret wedi cael rhyddid llwyr o ran penodi gweddill aelodau’r Panel Goruchwylio.

“Fel Bwrdd Iechyd rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r gofal gorau posib i’n defnyddwyr gwasanaeth ac mae hynny’n sicr yn wir gyda’n staff gweithgar yn ein gwasanaethau mamolaeth a newydd-anedig  Rwy’n gobeithio y bydd yr adolygiad hwn yn ein galluogi i ddangos sut mae ein gwasanaethau’n ddiogel ac yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau ond rydym hefyd yn benderfynol o ddysgu unrhyw wersi sydd angen eu dysgu a gwneud unrhyw welliannau sydd angen eu gwneud.  Mae ein defnyddwyr gwasanaeth yn haeddu dim llai na hynny.”  

Bydd y tîm adolygu clinigol yn dechrau ar ei waith cyn gynted ag y bydd y Cylch Gorchwyl wedi'i gymeradwyo.  Mae disgwyl i'r adolygiad gymryd o leiaf ddeg mis i'w gwblhau.

Diwedd

Ewch yma i ddarllen y Cwestiynau Cyffredin am yr Adolygiad Annibynnol hwn

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.