Neidio i'r prif gynnwy

Menter iechyd a lles Clwstwr ar y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol

Mae gwasanaeth sy'n helpu pobl ag anghenion iechyd a lles cymhleth tra'n cymryd pwysau oddi ar feddygon teulu wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol.

Mae Gwasanaeth Llwybr Cwmtawe yn cynnig cymorth i’r rhai sy’n cael trafferth gyda chamddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl a cham-drin domestig, gan gynnwys trais rhywiol.

Gall ei gefnogaeth hefyd ymestyn i aelodau o'r teulu y mae'r materion hyn yn effeithio arnynt.

Ariennir y prosiect peilot gan Grŵp Cydweithredol Clwstwr Lleol Cwmtawe (LCC) ac mae'n gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (CGGA).

Mae'n darparu gofal sy'n canolbwyntio ar y claf trwy weithio gyda phob person i gytuno ar ymyriadau ystyrlon sy'n mynd i'r afael â'u hanghenion neu eu problemau nas diwallwyd.

Yn y llun: Cydlynydd y prosiect, Cara Lougher.

Fe’i cyflwynwyd yn 2021 ar ôl i iechyd meddwl, cam-drin domestig a chamddefnyddio sylweddau gael eu nodi fel tri maes lle’r oedd y clwstwr – sy’n cynnwys Treforys, Clydach a Llansamlet – eisiau darparu gwasanaethau ychwanegol.

Mae’r gwasanaeth bellach wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol ar ôl cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau GIG Cymru 2023.

Dywedodd cydlynydd y prosiect Cara Lougher: “Mae’r gwasanaeth yn darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i unigolion sydd fel arfer ag anghenion lluosog heb eu diwallu.

“Maen nhw fel arfer yn bobl sydd wedi bod yn ceisio cymorth gan eu meddyg teulu ond sydd angen cymorth pellach yn aml.

“Fe wnaethon ni geisio creu gwasanaeth sy’n eu helpu i gael mynediad at wasanaethau lleol eraill ym mha bynnag ffordd maen nhw eisiau cael eu gweld neu eu clywed.

“Felly, rydyn ni’n edrych ar sut rydyn nhw eisiau rywun i gysylltu â nhw, p’un a ydyn nhw am gael eu gweld yn y feddygfa neu yn y gymuned a pha mor aml.

“Ein nod yw sicrhau bod pobl ag iechyd meddwl gwael, sy’n cael trafferth gyda chamddefnyddio sylweddau neu sy’n ddioddefwyr cam-drin domestig yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u bod yn cael gofal.”

I ddechrau, cynhelir asesiad i ddeall materion ac anghenion unigol pob person.

Yna caiff pecyn cymorth pwrpasol ei lunio yn ymwneud â’r anghenion a’r nodau yr hoffai’r person hwnnw eu cyflawni neu y byddai angen cymorth arnynt.

Yna rhoddir cymorth un-i-un iddynt a all gynnwys addysg am drawma, cwsg a maeth, help i gael cymorth gan awdurdodau lleol neu dîm iechyd meddwl, help i lywio gwasanaethau priodol – a mwy.

“Rydyn ni’n gwneud llawer o asesiadau risg i helpu pobl i deimlo’n diogel a sicr ynddyn nhw eu hunain ac yna’n ceisio adeiladu gwytnwch a rhoi sgiliau ac addysg iddyn nhw,” ychwanegodd Cara.

“Rydym yn edrych yn gyfannol ar beth yw achosion eu hanawsterau, yn ogystal â beth all achosi straen neu fod yn sbardun.

“Mae’r gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth eithaf eang i weddu i beth bynnag sydd ei angen ar bob person ac rydym yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd sy’n cael eu heffeithio hefyd, boed yn blant neu rieni a gofalwyr.

“Gallai rhan o gynllun cymorth gynnwys gweithio gyda rhywun ar eu llesiant, a allai gynnwys gweithio gyda meddyg teulu, nyrs neu dîm rhagnodi.

“Gallai hefyd wedyn gynnwys yr angen i’w cefnogi i ofalu am eu hunain ychydig yn well, felly byddem yn eu hatgoffa o hanfodion llesiant.

“Yna mae yna elfen gynaliadwy lle rydyn ni’n eu helpu i gael cymorth tymor hwy gan ein partneriaid allweddol, fel gwasanaethau cymorth sylweddau neu gam-drin domestig.”

Mae cyflwyno'r gwasanaeth wedi arwain at ostyngiad o 60 y cant yn y galw ar feddygon teulu, yn ogystal â chynnydd o 98 y cant yn nifer y cleifion sy'n cael mynediad gwell at ffynonellau cymorth eraill.

Bu 70 o bobl, gan gynnwys aelodau o'r teulu, yn elwa o'r gwasanaeth yn ystod ei gyfnod cychwynnol o 18 mis.

Mae’r gwasanaeth nawr yn gobeithio am lwyddiant pellach ar ôl cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau GIG Cymru, yn y categori Darparu Gwasanaethau sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn.

Mae’r gwobrau’n cydnabod sut y gall syniadau arloesol ar gyfer newid wneud gwahaniaeth sylweddol i’r cleifion sydd angen gofal, y sefydliadau sy’n darparu gofal, a’r system iechyd a gofal yn ei chyfanrwydd.

Mae’n gyfle i arddangos timau gweithgar ac ysbrydoledig yn gweithio gyda’i gilydd, gan ymdrechu i wella arferion gofal iechyd a gofal cleifion ledled Cymru.

O gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Cara: “Rwyf bob amser wedi bod yn falch o’r hyn rydym yn ei gynnig fel gwasanaeth ond roedd ei glywed gan bobl eraill, gan gynnwys cleifion a sut mae wedi eu helpu, yn anhygoel.”

Dywedodd Mike Garner, arweinydd LCC Cwmtawe: “Fe wnaethom fuddsoddi yn y prosiect hwn sydd wedi profi’n glir ei fanteision i gleifion a’r GIG yn gyffredinol.

“Ni allem fod wedi rhagweld y byddai mor llwyddiannus ag y bu ac mae hynny i gyd oherwydd Cara a’r tîm.

“Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon yn bluen wych yn y cap.”

Dywedodd Cyfarwyddwr CGGA, Amanda Carr: “Rydym yn falch iawn o'r prosiect hwn a'r gwahaniaeth cadarnhaol y mae'n ei wneud i bobl yn LCC Cwmtawe.

“Mae gan ein partneriaeth â LCC Cwmtawe, yn ogystal â chlystyrau lleol eraill, hanes o ddatblygu gwasanaethau arloesol, effaith uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

“Rydym wrth ein bodd bod Prosiect Llwybr Cwmtawe yn cael cydnabyddiaeth genedlaethol.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.