Neidio i'r prif gynnwy

Mae clwstwr yn helpu i ysbrydoli cymuned i wneud newidiadau cadarnhaol i iechyd a lles

Aelodau

Mae pobl sy'n byw ym Mhort Talbot wedi'u hysbrydoli i wneud newidiadau cadarnhaol i'w hiechyd a'u lles.

Yn ddiweddar cynhaliodd Grŵp Cydweithredol Clwstwr Lleol Afan (LCC) ddigwyddiad iechyd a lles am ddim i helpu i ysbrydoli pobl i fyw bywydau iachach fyth.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o grwpiau a gwasanaethau iechyd a chymunedol lleol a allai gynnig cyngor a chymorth ynghylch gwneud newidiadau iach.

Mae LCC Afan yn gwasanaethu ardal Port Talbot ac mae’n cynnwys grŵp o bractisau meddygon teulu, deintyddion, fferyllfeydd cymunedol, optegwyr lleol, nyrsys cymunedol, a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.

Yn y llun i'r chwith: Rheolwr datblygu busnes a gweithredu LCC Afan Joanna Parkinson, rheolwr cynllunio a chymorth partneriaeth Dawn Burford, rheolwr datblygu clwstwr Lynne Thomas ac Ingrid Nicholls, rhagnodydd cymdeithasol LCC Afan.

Maent yn gweithio gyda'i gilydd i gronni adnoddau a rhannu arfer gorau mewn ymgais i'ch helpu i gadw'n heini ac iach, ac i wella'r ffordd y gofelir amdanoch os byddwch yn mynd yn sâl.

Menyw yn sefyll o flaen stondin

Cynhaliwyd y digwyddiad lles yng Nghanolfan St Paul's ym Mhort Talbot.

Dywedodd Joanna Parkinson, rheolwr datblygu busnes a gweithredu LCC Afan: “Rydym yn hynod falch o fod wedi cynnal ein digwyddiad ymgysylltu lles cyntaf.

“Roedden ni eisiau codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu yn y gymuned a helpu i wella llythrennedd iechyd ein poblogaeth.

“Ein nod oedd ymgysylltu’n uniongyrchol â chleifion y clwstwr mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol, gan roi’r cyfle i’r cyhoedd a stondinwyr rwydweithio i ddarparu cymorth a chyngor iechyd a lles.”

Gallai aelodau'r cyhoedd ymgysylltu â stondinau rhyngweithiol gan sefydliadau gan gynnwys MS Society, Diabetes UK, Llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot, y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith, Dysgu Oedolion yn y Gymuned Castell-nedd Port Talbot a Chydgysylltu Ardaloedd Lleol.

Roedd hefyd nifer o aelodau o staff y bwrdd iechyd wrth law i gynnig cyngor, gan gynnwys gweithwyr cymorth deieteg ac aelodau o’r Gwasanaeth Parasol Gofal Diwedd Oes (yn y llun).

Y gobaith yw y bydd yr LCC yn cynnal digwyddiadau lles tebyg i gleifion yn y dyfodol.

“Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol,” ychwanegodd Joanna.

“Fe’i cefnogwyd gan amrywiaeth o stondinau gan y bwrdd iechyd, gwasanaethau awdurdod lleol, elusennau lleol a sefydliadau trydydd sector sy’n gwasanaethu ardal Castell-nedd Port Talbot.

“Rydym yn edrych ymlaen at gynnal digwyddiadau pellach yn y dyfodol i ddarparu mwy o wybodaeth am bynciau y dywedodd y rhai a fynychodd wrthym yr hoffent eu derbyn.”

Dywedodd Andrew Griffiths, Pennaeth Datblygu a Chynllunio'r Bwrdd Iechyd: "Mae'r Clystyrau ar draws rhanbarth ein bwrdd iechyd yno i ganolbwyntio ar wella iechyd y boblogaeth leol.

"Rydym yn hynod falch o gefnogi'r bobl sy'n byw yng Nghwstwr Afan i gael ymwybyddiaeth o'r ystod o wasanaethau sydd ar gael yn lleol ac o'r gefnogaeth y gallant ei chael i gadw eu hunain yn iach yn lleol."

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.