Neidio i'r prif gynnwy

Mae Billie yn cynnig paw-ysgrif i gleifion ar gyfer hapusrwydd

Llun sy’n dangos claf Jason yn eistedd ar soffa wrth ymyl ci therapi Billie.

Prif lun: Claf Jason gyda Billie y ci therapi.

 

Mae cleifion mewn uned asesu wedi'i chynllunio yn elwa ar ysgrif-pawen misol sy'n gadael gwen ar eu hwynebau.

Mae Billie’r ci therapi wedi dod yn ddigwyddiad rheolaidd yn uned Hafod y Wennol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yn Hensol, gyda’r Labrador yn denu cymaint o sylw ag y gall ei gael.

“Mae pawb yn edrych ymlaen at ymweliadau Billie, sy’n rhan o’n hagwedd gyfannol at ofal cleifion, oherwydd mae hi mor therapiwtig. Gallwn weld y newid, y cynnydd mewn hwyliau pan mae hi yma,” dywedodd yr arweinydd clinigol Paige Morris.



Mae darparu therapi yn llwybr gyrfa amgen i Billie, pedwar, pwy oedd i fod i bod yn gi gwn, gan adfer gêm i giperiaid.

“Wnaeth hi ddim cyrraedd y radd fel ci gwn felly, trwy fy chwaer, fe wnaethon ni ei hailgartrefu fel anifail anwes ein teulu,” meddai’r perchennog Kate Jenkins.

Ar ôl mynd â hi i mewn fel anifail anwes y teulu pryd roedd hi’n un mhlwydd oed, sylweddolodd Kate y dylid rhannu anian gariadus ac amyneddgar Billie ag eraill felly fe wnaethant wirfoddoli gyda Therapi Anifeiliaid Anwes Cariad. Mae gan Therapi Anifeiliaid Anwes Cariad gŵn therapi ledled Cymru sy'n darparu'r un cymorth lles ag y mae Billie yn ei wneud.

“Fe welson ni pa mor dda oedd hi gyda phobol eraill, a sut roedd hi’n ymddwyn gydag aelodau hŷn o’r teulu ac eisiau gadael i fwy o bobol gael y cyfle i gael amser gyda hi,” meddai Kate.

Yn ystod ei hymweliadau mae Billie yn hoffi ymlacio wrth ymyl cleifion ar y soffas, gan gynnig clust wrando feddal iawn yn gyfnewid am bat a ffwdan.

Llun yn dangos Billie perchennog y ci, Kate, yn eistedd ar fainc gyda Steve gyda Billie ar dennyn o

Mae Kate Jenkins a'r claf Steve yn treulio amser gyda Billie yn yr ardd yn Hafod y Wennol yn Hensol.

Credyd: BIPBA

“Mae gennym ni boster ar y wal gyda'r dyddiadau y mae Billie yn ymweld â nhw ac mae'r cleifion bob tro yn mynd ato i wirio pryd mae hi'n dod i mewn nesaf,” meddai Paige.

“Er nad Billie yw eu ci mae nhw’n teimlo ymdeimlad o berchnogaeth ac eisiau prynu danteithion iddi pan fyddan nhw’n mynd i’r siopau. Mae’n nhw hefyd yn bwriadu rhoi bocs o deganau at ei gilydd iddi.”

Ychwanegodd Kate: “Rwyf wrth fy modd yn gweld y pleser y mae’n ei roi i’r cleifion. Mae nhw’n gwenu ac mor hapus pan mae nhw’n gweld Billie.”

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.