Neidio i'r prif gynnwy

Mae achosion o norofirws ar gynnydd – cyngor a gwybodaeth frys

Mae orofirws, firws sy'n achosi dolur rhydd a chwydu, yn cylchredeg yn ein cymunedau. Efallai y bydd gan rai pobl symptomau eraill hefyd fel dymheredd uchel, pen tost, cramp stumog poenus ac aelodau poenus.

Gall y symptomau hyn gymryd ychydig ddyddiau i ymddangos (tua 2-3 diwrnod) ar ôl i chi gael eich heintio a gall y symptomau bara hyd at ddau neu dri diwrnod fel arfer. Efallai y byddwch hefyd yn dal yn heintus am ychydig ddyddiau ar ôl i'ch symptomau wella.

Mae byg y bol yn annymunol i bawb, ond fel arfer nid yw'n achosi unrhyw niwed parhaol. Fodd bynnag, i gleifion ysbyty sy'n agored i niwed nad yw eu systemau imiwnedd o bosibl mor gryf, gall fod yn fwy difrifol.

Os ydych chi'n teimlo'n sâl, os oes gennych unrhyw symptomau Norofirws ar hyn o bryd, neu dim ond yn ddiweddar y daeth eich salwch a'ch dolur rhydd i ben, peidiwch ag ymweld â'n hysbytai. Hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n well fe allech chi fod yn heintus o hyd a throsglwyddo'r firws i gleifion a staff.

Felly peidiwch ag ymweld â'r wardiau nes eich bod wedi bod yn rhydd o symptomau am o leiaf 48 awr.

Os ydych wedi bod yn gofalu am rywun sydd â'r symptomau hyn, ystyriwch hefyd y gallech fod yn datblygu haint, felly peidiwch ag ymweld nes eich bod yn siŵr nad ydych wedi cael eich heintio.

Rydym hefyd yn annog pobl sydd â Norofirws i aros gartref, aros yn hydradol, ac osgoi dod i'r Adran Achosion Brys. Os oes gennych chi salwch a dolur rhydd, mae fel arfer yn mynd heibio ei hun ymhen ychydig ddyddiau.

Y ffordd orau o amddiffyn eich hun a’ch teulu rhag Norofeirws a salwch heintus eraill yw golchi’ch dwylo’n rheolaidd â sebon a dŵr:

  • Yn enwedig ar ôl defnyddio'r toiled
  • Cyn paratoi neu fwyta unrhyw fwyd a diod.
  • Peidiwch â rhannu tywelion gyda'r rhai sy'n sâl.
  • Glanhewch a diheintiwch arwynebau ac eitemau sy'n cael eu cyffwrdd yn aml yn rheolaidd.

Oeddech chi'n gwybod - nid yw geliau alcohol a glanweithyddion dwylo bob amser yn effeithiol yn erbyn Norofirws oherwydd ni allant dreiddio i gragen allanol amddiffynnol y firws. (Fodd bynnag, mae gel alcohol a hylif diheintio dwylo yn helpu yn erbyn y firws Covid, gan ei fod yn cael ei wneud yn wahanol.)

Fodd bynnag, mae golchi dwylo'n drylwyr yn effeithiol yn erbyn y ddau.

Os ydych chi'n poeni ac angen cyngor pellach ewch yma i roi cynnig ar wiriwr symptomau 111 GIG Cymru ar-lein neu ffoniwch 111 i gael cyngor meddygol 24/7 ac i gael mynediad at y gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.