Neidio i'r prif gynnwy

Llwyddiant brechlyn ffliw ym Mae Abertawe

Dynes yn teimlo

Delwedd stoc

 

Mae mwy o oedolion sy'n gymwys i gael y pigiad ffliw am ddim wedi cael eu brechu ym Mae Abertawe nag unrhyw ran arall o Gymru hyd yn hyn yr hydref hwn.

Gwelwyd y mwyafrif helaeth yn y 49 meddygfa ar draws ardal y bwrdd iechyd, er bod fferyllfeydd cymunedol hefyd yn cynnig y brechiad ffliw i oedolion.

Bydd pob practis yn anfon apwyntiad at bob oedolyn a phlentyn dwy a thair oed sy'n gymwys i gael y brechiad ffliw am ddim.

Er gwaethaf galw digynsail am wasanaethau arferol, mae meddygon teulu wedi darparu clinigau y tu allan i oriau arferol, gan gynnwys penwythnosau, i sicrhau bod cleifion yn cael eu hamddiffyn.

“Mae hyn yn fwy rhyfeddol o ystyried eu bod wedi gorfod brechu mwy o bobl yn erbyn y ffliw eleni yn unol â chanllawiau cenedlaethol,” meddai Anjula Mehta, Cyfarwyddwr Meddygol Grŵp ar gyfer Gofal Sylfaenol, Grŵp Gwasanaethau Cymunedol a Therapïau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe .

“Mae wedi bod yn gyfnod anhygoel o anodd i feddygfeydd teulu, felly mae'n dyst i broffesiynoldeb ac ymroddiad staff eu bod wedi gallu cyflwyno rhaglen mor llwyddiannus, nad yw drosodd eto.

“Rhaid i ni hefyd ddiolch i'r cyhoedd am dderbyn y cynnig o'r brechiad ffliw wrth i ni fynd i aeaf heriol iawn.

“Diolch am ein helpu ni i'ch helpu chi a chadw ein poblogaeth yn ddiogel.”

Mae'r set gyntaf o ffigurau brechu rhag y ffliw yng Nghymru yn dangos bod bron i 60% (58.7%) o bobl 65 oed a hŷn wedi brechu hyd yma yn ardal bwrdd iechyd Bae Abertawe. Dyma'r nifer uchaf yng Nghymru.

Mae rhagor na chwarter (26%) y cleifion hynny rhwng chwe mis a 64 sydd mewn risg glinigol wedi cael eu brechu rhag y ffliw. Unwaith eto, y lefel uchaf yng Nghymru.

Dywedodd y meddyg teulu Dr Iestyn Davies fod cael brechiad ffliw yr un mor bwysig â chael eich brechu yn erbyn Covid ac nad oes ots pa frechlyn mae cleifion yn cael gyntaf.

“Rydyn ni bob amser yn fwy na pharod i gefnogi unrhyw fenter sy'n diogelu ein cymuned ac mae pandemig Covid wedi dangos pa mor bwysig yw brechiadau i iechyd a lles pawb rydyn ni'n eu gwasanaethu,” meddai Dr Davies, Partner Meddygon Teulu yng Ngrŵp Meddygol Cwmtawe ac Arweinydd Clwstwr Cwmtawe.

“Os cewch eich brechu rhag Covid a’r ffliw, mae’r risg o fynd yn ddifrifol wael a gorfod mynd i’r ysbyty yn cael ei leihau’n fawr.

“Mae ein staff a'n gwirfoddolwyr wir wedi camu i'r adwy ac wedi ein helpu i gyflwyno clinigau brechu er mwyn ateb y galw a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am yr ymrwymiad a'r ymroddiad i wasanaethu eraill."

Mae rhai meddygfeydd yn Abertawe wedi defnyddio gwirfoddolwyr i gwrdd a chyfarch i sicrhau bod clinigau yn rhedeg mor llyfn â phosibl.

“Mae ein holl staff a gwirfoddolwyr wedi mwynhau’r cyfle yn fawr i helpu’r meddygfeydd i gynorthwyo cleifion i gadw pobl yn ddiogel yn ystod misoedd y gaeaf,” meddai Amy Meredith-Davies, Rheolwr Partneriaethau Iechyd a Lles Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe.

Er mai dim ond symptomau ffliw ysgafn y bydd rhai pobl yn eu profi, gall y firws achosi cymhlethdodau difrifol fel broncitis a niwmonia, a allai arwain at gael eu derbyn i'r ysbyty.

Mae plant ifanc iawn ac oedolion hŷn, pobl â chyflyrau iechyd sylfaenol difrifol a menywod beichiog mewn mwy o berygl o ddioddef cymhlethdodau os ydynt yn dal y ffliw.

Mae ymchwil wedi dangos bod y rhai sydd wedi'u heintio â'r ffliw a Covid ddwywaith yn fwy tebygol o farw na rhywun â Covid yn unig.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.