Neidio i'r prif gynnwy

Lleddfu cyfyngiadau ymweld yn Ysbyty Treforys

Arwydd yn Ysbyty Treforys.

Mae trefniadau ymweld arferol wedi cael eu hadfer yn Ysbyty Treforys ym mhob ardal heb law Ward S o ganol dydd heddiw (Dydd Mawrth, Ionawr 9fed, 2024).

Gallwn wneud hyn oherwydd bod achosion o'r byg chwydu'r gaeaf (Norofirws), Covid, ffliw a C.difficile, sy'n achosi dolur rhydd, wedi gostwng.

Fodd bynnag, rydym yn adolygu'r sefyllfa'n barhaus ac efallai y bydd yn newid.

Efallai y bydd angen i wardiau hefyd gyfyngu ar ymweld â gwelyau penodol fesul achos a byddant yn cyfleu hyn yn uniongyrchol i ymwelwyr.

Hoffem ddiolch i ymwelwyr am eu hamynedd a'u cydweithrediad ers i ni gyhoeddi'r cyngor yr wythnos diwethaf gan fod hyn wedi helpu i leihau lefelau heintiau a diogelu cleifion.

Gallwch nawr ymweld â phob ardal - heblaw am Ward S - fel arfer. Ond gohiriwch eich ymweliad os ydych yn teimlo'n sâl neu os oes gennych unrhyw symptomau fel dolur rhydd a chwydu, twymyn neu beswch, neu os ydych wedi bod yn gofalu am rywun sy'n sâl.

Ar yr adeg hon o'r flwyddyn mae'n hawdd iawn i salwch arferol y gaeaf ledaenu i gleifion sy'n agored i niwed a bydd yn cael eu heffeithio'n wael.

Os byddwch yn ymweld, golchwch a glanweithiwch eich dwylo.

Ar gyfer Ward S, caniateir ymweld dim ond os yw at ddiben a dylid cytuno ymlaen llaw gyda rheolwr y ward. Mae hyn yn golygu mai dim ond os yw'n derbyn gofal diwedd oes y gallwch ymweld â chlaf neu os ydych yn ofalwr neu'n berthynas sy'n darparu cymorth ymarferol yn ystod yr ymweliad, fel helpu gyda bwyta ac yfed. Gallwch hefyd ymweld â chleifion sydd â dementia neu anghenion clinigol eraill sy'n golygu bod angen cymorth arnynt.

Norofirws – Mae hwn yn salwch annymunol iawn sy'n achosi dolur rhydd a chwydu, crampiau stumog ac aelodau poenus. Ond gellir trin y symptomau gyda meddyginiaeth dros y cownter o'r fferyllfa a dylai basio o fewn diwrnod neu ddau. Dylech osgoi dod i'r Adran Achosion Brys (A&E) gyda'r salwch hwn gan eich bod mewn perygl o'i ledaenu i gleifion bregus.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.