Neidio i'r prif gynnwy

Hwb i wasanaethau plant gyda model staffio newydd

Mae trawsnewid sylweddol o fewn gweithlu meddygon ymgynghorol pediatrig Bae Abertawe yn anelu at ddarparu gofal gwell fyth i blant, a gwella lles staff.

Mae'r newidiadau wedi digwydd yn nwy ward bediatrig Ysbyty Treforys - Ward Oakwood a Ward M - ynghyd â'r Uned Asesu Pediatrig (PAU).

Mae dau meddyg ymgynghorol newydd wedi ymuno i helpu creu gweithlu pediatrig mwy ystwyth, a chyflwynwyd cyfleoedd newydd o hyfforddiant a datblygiad pellach i staff dan hyfforddiant.

Bu’r uwch dîm rheoli, AD meddygol, y gweithlu a meddygon ymgynghorol pediatrig yn cydweithio i greu’r model gweithio newydd, a lansiwyd ym mis Ionawr.

Mae Dywedodd Dr Sujoy Banerjee, Neonatolegydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Clinigol yr Adran Plant a Phobl Ifanc yn Ysbyty Singleton: “Dyma un o’r newidiadau mwyaf arwyddocaol yn y gweithlu meddygol pediatrig ers amser maith.

“Oherwydd y cymysgedd o fewn y gweithlu, nid oedd rolau’n gyson ac arweiniodd hynny at rai cymhlethdodau wrth ddod i gytundeb ar beth yw’r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau o fewn y gweithlu meddygol.

YN Y LLUN: Ymgynghorwyr Pediatrig Matt Ryan (chwith) a Carwyn Dafydd.

“Y brif drafodaeth oedd y cydbwysedd rhwng gofal dewisol a gofal brys ynghyd â thegwch gwasanaeth.

“Fe wnaethon ni recriwtio dau meddyg ymgynghorol newydd i roi mwy o ddyfnder i ni. Mae wedi caniatáu inni gynllunio model gweithlu mwy cadarn, tra bod gennym bellach ddau meddyg ymgynghorol – yn hytrach nag un fel yr oedd gennym yn flaenorol – yn gofalu am bob maes clinigol.

“Rydym hefyd wedi cryfhau ein rolau gradd ganol drwy recriwtio newydd a disodli’n brydlon rhai swyddi nad oeddent wedi’u llenwi.”

Dywedodd Dr Pramodh Vallabhaneni, Pediatregydd Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol Pediatreg Cyffredinol: “Mae’r uwch dîm rheoli yn ddiolchgar i’r gweithlu o feddygon ymgynghorol pediatrig am ymuno, gan nodi’r newid yr oedd ei angen ar gyfer lles meddygon ymgynghorol a gwell darpariaeth gofal i blant.

“Daeth gwerthoedd y bwrdd iechyd i’r amlwg yn hyn o beth. Rydym wedi gweithio gyda’n gilydd i gyflawni’r cynllun newydd hwn – Adnoddau Dynol, rheolwyr, y tîm clinigol, hyd yn oed y tîm nyrsio oherwydd y galw gan gleifion allanol a’r ailstrwythuro, roedd gan bawb rôl.”

Ychwanegodd Sue Kotrzuba, Rheolwr Adrannol Cynorthwyol, Plant a Phobl Ifanc: “Mae pediatregwyr yn grŵp arbenigol iawn felly roedd y gweithlu, recriwtio a staff yn gweithio gyda’i gilydd yn hanfodol i gytuno ar y newid a’i roi ar waith.

“Mae dod â thegwch yn help mawr i godi morâl y tîm, sydd mor bwysig nid yn unig i’n tîm ond i gleifion hefyd.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.