Neidio i'r prif gynnwy

Gweithdy Cynllun Gweithredu LGBTQ+

Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu Cynllun Gweithredu LGBTQ+ i Gymru gyda'r nod o wneud Cymru’r genedl fwyaf cyfeillgar i LGBTQ+ yn Ewrop. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe rydym am weld hyn hefyd. Dyma le mae angen EICH help arnom.

Rydym eisiau sicrhau, fel eich bwrdd iechyd lleol, ein bod yn gwrando arnoch chi, am yr hyn sy'n bwysig i chi.

Rydym wedi adolygu'r cynllun y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chynhyrchu, ac wedi manteisio ar y themâu allweddol lle gallwn gael effaith ystyrlon.  Hoffem weithio gyda'n dinasyddion a'n dinasyddion LGBTQ+ i'n helpu llunio ein cynllun i sicrhau y gallwn ddarparu'r profiad gorau wrth ddefnyddio ein gwasanaethau.

Rydym yn gwahodd unigolion a sefydliadau i fynychu gweithdy i gael y sgwrs hon.

Rydym yn cynnal dau weithdy:

Dydd Mercher 7 Mehefin – Canolfan Gymunedol Castell-nedd – 1.30pm i 4pm – Os hoffech fynychu'r gweithdy LGBTQ+ ar ddydd Mercher 7 Mehefin, dilynwch y ddolen hon i Eventbrite.

Dydd Mercher 14eg Mehefin – Canolfan Phoenix, Townhill – 1.30pm i 4pm – Os hoffech fynychu'r gweithdy LGBTQ+ ar ddydd Mercher 14 Mehefin, dilynwch y ddolen hon i Eventbrite.

Sylwir os gwelwch yn dda bod rhai dolenni allanol ddim ar gael yn y Gymraeg.

Yn ystod y gweithdy hwn byddwn yn ceisio dogfennu rhai o'r camau y gallwn eu cymryd a'r effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei chael ar ein dinasyddion LGBTQ+.

Bydd costau teithio yn cael eu had-dalu i unigolion sy'n cymryd rhan.

Os nad ydych yn gallu mynychu, ond yr hoffech rannu eich profiadau, cysylltwch â ni ar SBU.DICE@wales.nhs.uk

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.