Neidio i'r prif gynnwy

Bae Abertawe sy'n hyfforddi grŵp cyntaf Felindre o nyrsys tramor

Mae Ystafell Hyfforddiant Addysg Nyrsio newydd Bae Abertawe yn lledaenu ei hadenydd drwy gefnogi grŵp newydd o nyrsys tramor ar ran darparwr gofal iechyd arall yn GIG Cymru.

Ar ôl recriwtio 390 o nyrsys ers mis Ionawr 2022, mae BIP Bae Abertawe yn hyddysg iawn o ran paratoi staff rhyngwladol ar gyfer cyflogaeth yn y GIG.

Image shows nurses training with a mannequin Mae'r ystafell hyfforddi, a agorwyd yn swyddogol y llynedd, bellach yn hyfforddi 14 o nyrsys rhyngwladol ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i lenwi swyddi gwag band pump.

Er bod y newydd-ddyfodiaid eisoes yn nyrsys hyfforddedig, mae angen iddynt gael hyfforddiant ychwanegol cyn gallu cofrestru fel nyrs yn y DU.

YN Y LLUN: Mae rhai o nyrsys tramor Felindre yn hyfforddi yng nghanolfan hyfforddi Bae Abertawe ym Maglan.

Yn dilyn gwiriadau cydymffurfio a chael fisa, mae nyrsys tramor yn wynebu rhaglen hyfforddi OSCE (Archwiliad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol) pedair wythnos yn Ystafell Hyfforddi Addysg Nyrsio bwrpasol y bwrdd iechyd ym Mhencadlys Baglan cyn sefyll arholiad i gael eu cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).

Mae ymdrechion y bwrdd iechyd i lenwi’r bwlch o nyrsys band pump – mater a deimlir ledled y DU – wedi denu sylw cenedlaethol, ar ôl ymddangos ar 'The One Show' y BBC y llynedd.

Mae ansawdd ei hyfforddiant a’i gyfleuster arbenigol hefyd wedi dal llygad cyrff gofal iechyd eraill yng Nghymru.

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn ddarparwr gwasanaethau canser arbenigol yng Nghymru ac mae’n gweithredu Gwasanaeth Canser Felindre o’i chanolfan yng Nghaerdydd a lleoliadau gofal iechyd eraill ar draws de ddwyrain Cymru.

Image shows nurses training with a mannequin Cryfhaodd ei bartneriaeth â Bae Abertawe yn ystod taith recriwtio ddiweddar i India, ac maent bellach yn talu ffi benodol i gael hyfforddiant arbenigol y bwrdd iechyd.

Dywedodd Vivienne Cooper, Pennaeth Nyrsio Gwasanaeth Canser Felindre: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Bae Abertawe ar y fenter hon.

YN Y LLUN: Mae staff Bae Abertawe wedi darparu'r hyfforddiant ar gyfer carfan gyntaf Felindre o nyrsys tramor.

“Mae dysgu o’u profiad helaeth yn hynod o werthfawr ac felly hefyd y cyfle i’n hyfforddwyr arsylwi darpariaeth hyfforddiant OSCE i’w ddefnyddio yn y dyfodol.

“Rydym wedi cael ein plesio’n fawr gan y gefnogaeth a gawsom a’r gofal bugeiliol i’n nyrsys tra’n aros yn Abertawe. Mae’n enghraifft wych o ofal iechyd Cymru yn cydweithio i wella ein gwasanaethau.”

Mae Lynne Jones, Pennaeth Addysg a Recriwtio Nyrsio Bae Abertawe, wedi treulio'r 21 mlynedd diwethaf mewn addysg nyrsio a rolau recriwtio ac mae wedi bod yn ganolog i ddenu nyrsys tramor i Fae Abertawe.

Meddai: “Mae llenwi rolau band pump wedi bod yn broblem fawr i’w theimlo ledled Prydain, ond dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gwneud ymdrech enfawr i bontio’r bwlch drwy ddenu nyrsys rhyngwladol i’n bwrdd iechyd.

Mae “Felly pan ddechreuodd trafodaethau rhyngom ni a Felindre roeddem yn deall pa mor bwysig oedd hi i’w hymddiriedaeth ein bod yn darparu ein hyfforddiant arbenigol.

YN Y LLUN: Staff o dîm Addysg Nyrsio Bae Abertawe a'r nyrsys tramor yn cael eu hyfforddi ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

“Rydym wedi buddsoddi mewn canolfan hyfforddi bwrpasol sy’n cynnwys dwy ystafell wedi’u dylunio fel wardiau, dwy ystafell addysgu, ardal astudio dawel ac ystafell sgiliau clinigol. Mae hynny'n rhoi llwyfan gwych i'r nyrsys ar gyfer eu hyfforddiant OSCE cyn mynd ymlaen i gael eu cofrestriad gyda'r NMC.

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu cydweithio â Felindre a hyfforddi eu carfan gyntaf erioed o nyrsys rhyngwladol.

“I ni, rwy’n ei weld fel atgof o’r gwaith rhagorol a wnaed gan ein bwrdd iechyd a’n tîm addysg nyrsio dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae hefyd yn dangos pa mor dda yr ydym yn cael ein hystyried gan ein cydweithwyr ym maes gofal iechyd yng Nghymru.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.