Nid yw'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am gynnwys gwefannau trydydd parti, a allai fod yn Saesneg yn unig.
Ydy eich plentyn yn treulio llawer o amser yn poeni am bethau sy'n digwydd yn eu bywyd neu am y bobl agosaf atynt?
A fu profedigaeth neu golled yn ddiweddar yn y teulu?
Ydy eich plentyn yn cael trafferth gyda phwysau arholiadau neu'n poeni am newid ysgolion?
A yw eich plentyn yn cael trafferth rheoli ei emosiynau?
Ydyn nhw'n cael anawsterau gyda pherthnasau cyfoedion neu deuluol?
A ydyn nhw'n cael trafferth cysgu neu a oes newid wedi bod i'w harferion bwyta?
Os yw eich plentyn rhwng naw ac 17 oed, mae Gwasanaeth Lles Barnardo's yma i'ch cefnogi chi a'ch plentyn.
Os ydych wedi cofrestru gyda meddygfa Clwstwr Penderi, gofynnwch iddynt wneud atgyfeiriad ar eich rhan.
Mae’r Clwstwr wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau iechyd a lles yng nghymuned Penderi.
Mae pob digwyddiad wedi cynnwys grwpiau a gwasanaethau iechyd a chymunedol lleol sydd wedi darparu gwybodaeth ac wedi cyfeirio pobl at y cymorth sydd ar gael iddynt.
Nod y digwyddiadau fu cefnogi ac ysgogi pobl i wella eu hiechyd a'u lles trwy eu gwneud yn ymwybodol o'r gwahanol adnoddau a sefydliadau sydd ar gael iddynt.
Hyd yn hyn, mae digwyddiadau wedi cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Penlan ac Eglwys Ffynnon Crist yn Nhremansel, tra bod sgyrsiau lles hefyd wedi cael eu cynnal yn ystafell gymunedol Tesco Fforestfach.
Mae Family & Therapy yn darparu gwasanaeth cwnsela i bobl ifanc hyd at 18 oed.
Mae apwyntiadau personol ar gael yn Stryd Page yn Abertawe.
Os hoffech gael eich cyfeirio, siaradwch â'ch meddygfa.
Mae gwasanaethau awdioleg gofal sylfaenol Bae Abertawe yn darparu mynediad arbenigol cyflymach i gleifion yn y gymuned.
Gall cleifion â phroblemau clyw, tinitws neu gwyr problemus nawr ffonio system brysbennu ffôn eu meddygfa ac archebu'n uniongyrchol i weld un o'r timau awdioleg gofal sylfaenol mewn clinigau dynodedig.
Mae’n disodli’r system flaenorol a oedd yn cynnwys apwyntiad meddygfa gyda meddyg teulu neu nyrs practis, a fyddai wedyn yn atgyfeirio’r claf at y tîm awdioleg.
Gall cleifion o fewn Clwstwr Penderi gael mynediad i'r gwasanaeth yn Ysbyty Singleton.
Mae’r gwasanaeth yn cyd-fynd â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trawsnewid gofal sylfaenol ledled Cymru, a’r pwyslais ar ddarparu ystod o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o safon yn y gymuned.
Mae hefyd yn cynnig cyngor ac yn cyfeirio cleifion at wybodaeth a fydd yn eu helpu i wneud penderfyniadau ar eu gofal clyw a rheoli effeithiau eu colled clyw a thinitws.
Mae Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan, a lansiwyd yn 2022, yn targedu pobl y canfyddir eu bod yn prediabetig, neu’n wynebu risg uchel o ddod yn ddiabetig, ac yn eu helpu i wneud y newidiadau angenrheidiol i’w ffordd o fyw er mwyn osgoi datblygu’r clefyd.
Mae'r rhaglen yn cynnig ymgynghoriad 30 munud i gleifion gyda gweithiwr cymorth dietetig sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig.
Mae hwn yn canolbwyntio ar bynciau fel gweithgaredd corfforol, bwyta'n iach ac yn hyrwyddo newidiadau eraill i'ch ffordd o fyw fel rhoi'r gorau i ysmygu a lleihau alcohol.
Mae'r rhaglen bellach ar gael ym mhob un o wyth clwstwr Meddygon Teulu Bae Abertawe - gyda gweithiwr cymorth dieteteg wedi'i leoli ym mhob un.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.