Neidio i'r prif gynnwy

Tîm yn dathlu ennill gwobr ddwbl am y cymorth lles sydd ar gael i gleifion

Mae gan dîm o Abertawe achos dwbl i ddathlu ar ôl derbyn dwy wobr genedlaethol am eu ffocws ar gefnogi lles cleifion.

Enillodd Cydweithrediaeth Clwstwr Lleol Cwmtawe (LCC) ddwy wobr yng Ngwobrau diweddaraf GIG Cymru.

Daw hyn ar ôl i staff dderbyn gwobr GIG Cymru arall yn 2023 ar gyfer Gwasanaeth Llwybr Cwmtawe, sy’n helpu pobl ag anghenion iechyd a lles cymhleth tra’n cymryd pwysau oddi ar feddygon teulu.

Ariennir y prosiect gan yr LCC ac mae'n gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (CGGA), sef y sefydliad ymbarél sy'n cefnogi datblygiad y sector gwirfoddol yn Abertawe.

Yn y llun: Aelodau o'r clwstwr a CGGA gyda phrif weithredwr GIG Cymru, Judith Paget.

Y tro hwn, roedd Clwstwr Cwmtawe, sy’n cynnwys Clydach, Llansamlet a Threforys, wedi cyrraedd y rhestr fer eto, yn y categori Dull System Gyfan i gydnabod yr holl gymorth iechyd meddwl a lles sydd ar gael i gleifion.

Yn 2023, enillodd Gwasanaeth Llwybr Cwmtawe Wobr y GIG am ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o’r hwb iechyd meddwl a llesiant sydd wedi’i leoli ym Meddygfa Strawberry Place, ar ran y clwstwr.

Mae'n gweithredu fel siop un stop ar gyfer cleifion sy'n gallu cael mynediad at gymorth gan ystod o wasanaethau a mentrau.

Mae’r clwstwr hefyd yn gartref i seicolegydd cymunedol cyntaf y bwrdd iechyd, sy’n darparu ymyrraeth gynnar i gefnogi iechyd meddwl a lles yn y gymuned.

Er y gall cleifion hefyd elwa ar ymarferwyr lles, cymorth ar gyfer anghenion cymhleth, y ward rithwir iechyd meddwl, gwasanaeth cwnsela pob oed a gwasanaeth rhagnodi cymdeithasol a rhaglen llesiant cymunedol sy’n ategu gwaith y ganolfan.

Bellach, mae’r clwstwr wedi’i gydnabod am yr ail flwyddyn yn olynol ar ôl ennill y wobr yn y categori Datblygu Dull System Gyfan.

Nid yn unig hynny, cyflwynwyd gwobr Cyfraniad Eithriadol i Wella Gofal Iechyd i'r tîm am eu gwaith hefyd.

Dywedodd Mike Garner, arweinydd LCC Cwmtawe: “Bu llawer iawn o gefnogaeth a llawer o ddiddordeb yn ein hwb iechyd meddwl a lles yn cael ei gyflwyno ar draws y rhanbarth.

“Mae wedi bod yn wych oherwydd rydyn ni eisiau i’r gwasanaeth hwn fod ar gael i bawb gan ei fod wedi profi i fod mor llwyddiannus.”

Mae tîm y clwstwr yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr o CGGA, yn ogystal â staff o wasanaethau a sefydliadau lluosog fel yr elusen Mind, Canolfan Gofalwyr Abertawe a Fertility Network UK, ymhlith eraill.

Dywedodd Cyfarwyddwr CGGA, Amanda Carr: “Mae ein partneriaeth hirsefydlog gyda Chlwstwr Cwmtawe yn parhau i fynd o nerth i nerth ac rydym yn falch iawn o weld unwaith eto fod ein partneriaeth wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol.

“Mae’n arddangosiad arall o’r gwerth ychwanegol i gleifion sy’n digwydd pan fydd y trydydd sector a’r sector cyhoeddus yn cyfuno eu hegni a’u harbenigedd.”

Mae dod â’r gwasanaethau ynghyd mewn un lle wedi eu gwneud yn fwy hygyrch i gleifion.

Mae hyn yn ei dro wedi lleihau’r galw ar feddygon teulu am anghenion iechyd meddwl lefel isel gan fod cleifion yn gallu ceisio cymorth a gwybodaeth gan y ganolfan lle bo’n briodol.

Dywedodd Karen Edwards, rheolwr cymorth cynllunio a datblygu clwstwr y bwrdd iechyd: “Roeddem am newid y ffordd yr oedd pobl â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu cefnogi mewn gofal sylfaenol gan fod nifer y cleifion yn cynyddu.

“Mae’r gwasanaethau a’r cymorth y mae’r clwstwr yn eu cynnig bellach i gyd wedi bod o ganlyniad i adborth cleifion, lle dywedon nhw wrthym am y mathau o wasanaethau y byddent yn eu defnyddio.”

Ychwanegodd Debra Morgan, rheolwr gweithredu busnes a datblygu ar gyfer LCC Cwmtawe: “Rydym wedi clywed gan gleifion am y gwahaniaeth y mae wedi’i wneud i’w bywydau.

“I lawer o bobl sydd wedi cael cymorth gan y ganolfan iechyd meddwl a lles, does dim gwasanaeth arall wedi bod i’w helpu.

“Mae’r cyfan wedi bod yn ymwneud â dull system gyfan a gwell cyfathrebu er budd ein cleifion er mwyn sicrhau nad oes yr un ohonynt yn syrthio drwy’r rhwyd.

“Mae wedi bod yn ddull partneriaeth i raddau helaeth iawn, yn enwedig gyda’r trydydd sector. Ni fyddai wedi bod mor llwyddiannus heb y cysylltiadau agos hynny yn cydweithio.”

Dywedodd Sharon Miller, Cyfarwyddwr Grŵp Gwasanaeth Cyswllt ar gyfer gwasanaethau sylfaenol a chymunedol: “Rwyf wrth fy modd bod Clwstwr Cwmtawe unwaith eto wedi cael ei gydnabod am eu gwaith arloesol.

“Mae’r wobr fawreddog hon yn cydnabod bod clystyrau mewn sefyllfa ddelfrydol i ymateb i anghenion eu poblogaeth leol a chanfod atebion sy’n effeithio’n gadarnhaol ar fywydau pobl.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.