Mygydau wyneb: Oherwydd y cynnydd sydyn mewn heintiau Covid-19 yn ein cymunedau ac ar ein wardiau, rydym yn mynnu bod yr holl staff, cleifion ac ymwelwyr yn gwisgo masgiau wyneb ym mhob maes clinigol a chyhoeddus, ym mhob lleoliad iechyd a gofal, oni bai eu bod wedi'u heithrio.
Os ydych chi'n cael trafferth gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol, gallwch gael gafael ar gymorth eich hun o WCADA (Canolfan Gweithredu Cymru ar Ddibyniaeth a Chaethiwed) trwy ffonio Abertawe: 01792 472519, Castell-nedd 01639 620222 neu Bort Talbot 01639 890862.
Mae Barod hefyd yn cynnig cyngor a chymorth cyfrinachol, di-farn di-dâl i bobl yr effeithir arnynt gan alcohol a chyffuriau a'u ffrindiau a'u teuluoedd.