Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Strep A ar gyfer Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot

Ar y dudalen hon fe gewch wybodaeth am beth yw strep A, beth i gadw llygad amdano a sut i geisio cyngor a chymorth os oes angen.

 

 

Beth yw strep A?

Mae streptococws A, sy'n aml yn cael ei fyrhau i strep A, yn facteria cyffredin y mae llawer o bobl yn ei gario heb eu gwneud yn sâl.

Gall ledaenu trwy gyswllt agos, fel peswch a thisian, a gall achosi salwch fel dolur gwddf neu dwymyn goch, sydd fel arfer yn ysgafn.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa rhieni bod achosion o haint streptococol grŵp A ymledol (iGAS - invasive group A streptococcal infection) yn parhau i fod yn brin yng Nghymru, a bod gan blant risg isel iawn o ddal y clefyd.

Daw’r nodyn atgoffa ar ôl i Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA - UK Health Security Agency) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau nifer o farwolaethau o iGAS, cymhlethdod prin o haint streptococol grŵp A.

 

Rwy'n poeni. Beth ddylwn i ei wneud?

Rydym yn deall bod rhieni a gofalwyr yn debygol o fod yn bryderus yn dilyn adroddiadau newyddion yn ymwneud ag iGAS, ond mae’r cyflwr yn parhau i fod yn brin a gofynnwn i bawb ddilyn cyngor swyddogol Iechyd Cyhoeddus Cymru:

  • Darparwch y gofal y byddech fel arfer yn ei ddarparu i blentyn â symptomau annwyd a ffliw.
  • Ond ymgyfarwyddwch â symptomau'r dwymyn goch ac iGAS, isod, fel rhagofal:

 

Symptomau'r dwymyn goch

Mae symptomau'r dwymyn goch yn cynnwys dolur gwddf, cur pen, twymyn, cyfog a chwydu. Dilynir hyn gan frech goch fân, sydd fel arfer yn ymddangos gyntaf ar y frest a'r stumog, gan ledaenu'n gyflym i rannau eraill o'r corff. Efallai na fydd gan blant hŷn y frech.

Ar groen sydd â phigmentau mwy tywyll, efallai y bydd y frech ysgarlad yn anoddach i'w gweld, ond dylai deimlo fel 'papur tywod'. Gall yr wyneb fod yn goch ond yn welw o gwmpas y geg.

Os ydych yn amau bod gan eich plentyn symptomau o'r dwymyn goch, dilynwch y cyngor hwn:

  • Cysylltwch â'ch meddyg teulu, ewch i wefan GIG 111 neu ffoniwch GIG 111 Cymru. Ewch i wefan GIG 111 Cymru.
  • Sicrhewch fod eich plentyn yn cymryd y cwrs llawn o unrhyw wrthfiotigau a ragnodir gan y meddyg
  • Cadwch eich plentyn gartref, i ffwrdd o'r feithrinfa, yr ysgol neu'r gwaith a dilynwch unrhyw ganllawiau a ddarperir gan eich meddyg teulu ynghylch pa mor hir y dylai aros yn absennol o'r lleoliadau hyn.

 

Symptomau iGAS

  • Twymyn (tymheredd uchel uwchlaw 38°C)
  • Poenau cyhyrau difrifol
  • Tynerwch cyhyrau lleoledig
  • Cochni ar safle clwyf.

Cysylltwch â'ch meddyg teulu neu mynnwch gyngor meddygol ar unwaith os ydych chi'n meddwl bod gan eich plentyn unrhyw arwyddion a symptomau clefyd iGAS.

Ewch i'r dudalen hon ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael rhagor o wybodaeth gan gynnwys rhestr o gwestiynau cyffredin.

Ewch i'r dudalen hon i ddarganfod mwy am ein Gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf.

 

 

 

Gwasanaeth Profi a Thrin Gwddf Dolur

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.