Neidio i'r prif gynnwy

Medline a PubMed

Mae Medline yn cynnwys ystod eang o bynciau meddygol yn ymwneud ag ymchwil, ymarfer clinigol, gweinyddiaeth, materion polisi, a gwasanaethau gofal iechyd.

I gyrchu Medline, dilynwch y dolenni isod:

Mae PubMed (Cronfa Ddata PubMed MeSH) yn darparu mynediad am ddim i 26.8 miliwn o gofnodion yn amrywio o ddyfyniadau, crynodebau a thestun llawn ym meysydd meddygaeth, nyrsio, deintyddiaeth, systemau gofal iechyd, a gwyddorau cyn-glinigol.

Mae Pubmed yn cynnwys Medline, ond hefyd bapurau ac erthyglau PubMedCentral (PMC) cyn iddynt gael eu mynegeio gyda MeSH. Fodd bynnag, nid yw PubMed mor soffistigedig â chronfa ddata Medline, felly byddem yn argymell defnyddio'r ddau wrth chwilio am destunau.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.