Neidio i'r prif gynnwy

7. A oes unrhyw resymau pam na ddylai eich plentyn gael y brechlyn?

Ychydig iawn o blant na allant gael y brechlyn Covid. Ni ddylid rhoi'r brechlyn i blant:

  • sydd wedi cael adwaith anaffylactig wedi'i gadarnhau i unrhyw un o gynhwysion y brechlyn, neu
  • sydd wedi cael adwaith anaffylactig wedi'i gadarnhau i ddos blaenorol o'r un brechlyn Covid.

Gall plant sydd â hanes o adwaith alergaidd difrifol i fwyd, cyffur neu frechlyn a nodwyd, neu bigiad pryfed gael y brechlyn Covid, cyn belled nad yw'n hysbys bod ganddynt alergedd i unrhyw gydran o'r brechlyn. Mae'n bwysig eich bod yn dweud wrth y person sy'n rhoi ei frechlyn i'ch plentyn os yw erioed wedi cael adwaith alergaidd difrifol (anaffylacsis).

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.