Neidio i'r prif gynnwy

5. Beth sydd angen i mi ei wneud?

Ffoniwch y ganolfan archebu ar 01792 200492 neu 01639 862323, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am a 5.30pm, neu ddydd Sadwrn rhwng 9.00am a 1.00pm. Neu e-bostiwch: SBU.COVIDbookingteam@wales.nhs.uk

 

Ar ddiwrnod yr apwyntiad, gwisgwch eich plentyn mewn dillad ymarferol fel ei bod yn hawdd cyrraedd pen ei fraich.

Os ydynt yn ofni nodwyddau neu'n teimlo'n bryderus, rhowch wybod i'r person sy'n rhoi'r brechlyn iddynt. Byddant yn eu deall ac yn eu cefnogi.

Efallai yr hoffai eich plentyn ddod â hoff degan gydag ef i chwarae ag ef tra bydd yn aros.

Ewch i'r dudalen hon am syniadau ar sut i leihau pryder eich plentyn cyn y brechiad.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.