Neidio i'r prif gynnwy

3. A yw fy mhlentyn mewn perygl o gael haint Covid?

Gall coronafeirws effeithio ar unrhyw un. Mae rhai plant mewn mwy o berygl gan gynnwys y rhai sy’n byw gyda chyflyrau difrifol fel:

  • canserau (fel lewcemia neu lymffoma)
  • diabetes
  • problemau calon difrifol
  • cŵyn yn y frest neu anawsterau anadlu, gan gynnwys asthma a reolir yn wael
  • clefyd yr arennau, yr afu neu'r perfedd
  • imiwnedd is oherwydd afiechyd neu driniaeth (meddyginiaeth steroid, cemotherapi neu radiotherapi)
  • trawsblaniad organ
  • cyflwr niwroanabledd neu niwrogyhyrol
  • anabledd dysgu difrifol neu ddwys
  • syndrom Down
  • problem gyda'ch dueg, ee clefyd cryman-gell, neu os ydych wedi cael tynnu eich dueg
  • epilepsi
  • problemau genetig difrifol
  • cyflyrau meddygol difrifol eraill yn unol â chyngor eich meddyg neu arbenigwr.

I'r rhan fwyaf o blant mae Covid fel arfer yn salwch mwynach nad yw'n arwain at gymhlethdodau yn aml. I rai ychydig iawn, gall y symptomau bara'n hirach na'r pythefnos arferol.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.