Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgîl-effeithiau. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn rhai ysgafn a thymor byr, ac nid yw pawb yn eu cael. Mae sgîl-effeithiau cyffredin iawn yn ystod y diwrnod neu ddau gyntaf yn cynnwys:
Mae'r rhain yn arwyddion arferol bod y corff yn adeiladu imiwnedd.
Gall twymyn ysgafn ddigwydd yn fuan ar ôl y brechiad a phara am ddiwrnod neu ddau. Fodd bynnag, gallai tymheredd uchel hefyd ddangos bod ganddynt Covid neu haint arall.
Bu nifer fach iawn o adroddiadau am myocarditis a phericarditis (llid y galon) mewn unigolion dan 18 oed, yn y DU ac yn rhyngwladol. Roedd y rhan fwyaf o’r bobl ifanc hyn yn gwella’n gyflym ac yn teimlo’n well ar ôl gorffwys a thriniaethau syml.
Dylech geisio cyngor meddygol ar frys os yw eich plentyn yn profi:
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.