Mae'r hydref yn bendant gyda ni a gyda'r newid yn y tymor daw cynnydd mewn salwch.
Mae nifer yr achosion Covid yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn parhau i fod ymhlith yr uchaf yng Nghymru, felly nid nawr yw'r amser i laesu dwylo.
Mae arbenigwyr sy’n cynghori Llywodraeth Cymru hefyd yn rhybuddio y gallai lefelau ffliw fod 50% i 100% yn uwch na gaeaf ‘arferol’ eleni wrth i ddiffyg haint yn ystod cyfyngiadau Covid y llynedd greu “dyled imiwnedd”.
Felly rydyn ni'n annog pawb i dderbyn cynigion brechu pan maen nhw'n eu cael.
Mae meddygfeydd yn brysur yn rhoi’r brechiad ffliw ac mae ein canolfannau brechu torfol yn parhau i gyflwyno’r dosau atgyfnerthu Covid, trydydd dosau sylfaenol y brechiad Covid ar gyfer y rhai sydd â system imiwnedd gwan a brechiadau ar gyfer plant 12 i 15 oed.
A chofiwch nad yw hi byth yn rhy hwyr i gael eich dos cyntaf o'r brechiad Covid os nad ydych chi wedi gwneud hynny eto.
Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion isod.
Y ffigurau diweddaraf
Sylwch: Mae'r ffigurau'n gywir ar 10am ddydd Iau, Hydref 7fed. Mae'r ffigurau hyn ar gyfer ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, nid Cymru gyfan.
Dos 1 af : 289,093
2ail ddos: 268,105
Dosau a roddir mewn meddygfeydd (dosau cyntaf ac ail): 121,322
Cyfanswm (Dosau 1 af ac 2il): 557,198
Y newyddion diweddaraf
Pàs Covid y GIG
Bydd pasys Gorfodol Covid ar gyfer clybiau nos a digwyddiadau mawr yn cael eu cyflwyno ddydd Llun, Hydref 11eg .
Gallwch gyrchu Pàs Covid y GIG trwy wefan y GIG neu ofyn am gopi papur.
Mae'r dosau cyntaf yn dal i fod ar gael i bawb dros 16 oed
Os ydych chi dros 16 oed ac heb gael eich brechiad Covid cyntaf eto, nid yw'n rhy hwyr i drefnu apwyntiad.
Mae ein sesiynau galw heibio canolfannau brechu torfol ar stop ar hyn o bryd tra ein bod yn sicrhau bod gennym ddigon o amser, lle ac adnoddau i roi dosau trydydd a atgyfnerthu, a brechu plant 12-15 oed. Ond mae'n dal yn hawdd iawn cael eich dos cyntaf neu'r ail ddos.
Gallwch drefnu apwyntiad ar amser sy'n gyfleus i chi trwy ffonio 01792 200492 neu 01639 862323 rhwng 9 am-5pm, dydd Llun - dydd Sadwrn. Neu e- bostiwch y tîm archebu yn sbu.covidbookingteam@wales.nhs.uk
Cefnogaeth ychwanegol
Hoffem sicrhau eich bod yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch pan fyddwch yn mynychu ar gyfer eich brechiad Covid. Os oes gennych unrhyw anghenion ychwanegol, er enghraifft:
• anabledd,
• pryder,
• iaith, neu
• gofynion cyfathrebu
neu os hoffech siarad â rhywun am y brechiad ac unrhyw bryderon neu betruster a allai fod gennych, rhowch wybod i ni trwy:
E-bost: sbu.covidbookingteam@wales.nhs.uk
Ffôn: 01639 862323
Amseroedd Gweithredu: Dydd Llun - Dydd Sadwrn 9am i 6pm.
Byddwn yn gwneud ein gorau i'ch helpu chi ar ddiwrnod eich apwyntiad i leihau unrhyw lefelau o bryder sydd gennych chi ynglŷn â mynychu.
Dosau atgyfnerthu i bobl dros 50 oed
Yn unol â chanllawiau JCVI, rydym wedi cychwyn ar ein rhaglen o frechiadau atgyfnerthu - gan ddechrau gyda'r rheini dros 80 oed, pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal, a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.
Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn cael gwybod am drefniadau trwy neges destun, ac rydym yn ymweld â chartrefi gofal i ddarparu brechiadau i'r bobl sy'n aros neu'n byw yno.
Gall gweithwyr rheng flaen a gyflogir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein mewnrwyd (chwiliwch 'Brechlyn atgyfnerthu Covid-19 ar gyfer staff rheng flaen').
Sylwch fod yn rhaid cael bwlch o chwe mis o leiaf rhwng eich ail ddos a'ch dos atgyfnerthu felly efallai y cewch eich galw ychydig yn gynharach neu'n hwyrach na theulu neu ffrindiau tua'r un oed.
Ewch i'r dudalen hon ar wefan ein bwrdd iechyd i gael mwy o wybodaeth am y rhaglen atgyfnerthu.
Trydydd dos ar gyfer pobl â system imiwnedd gwan
Rydym hefyd wedi dechrau cysylltu'n uniongyrchol â phobl sydd â system imiwnedd gwan i drefnu apwyntiad ar gyfer eu trydydd dos brechlyn Covid-19 cynradd.
Os oes gennych chi â system imiwnedd gwan, byddwch chi'n gymwys i gael trydydd dos, yn ogystal â dos atgyfnerthu - cyfanswm o bedwar pigiad. Byddwch yn derbyn eich dos atgyfnerthu chwe mis ar ôl eich trydydd dos.
Dosau cyntaf ar gyfer plant 12-15 oed
Rydym wedi dechrau brechu pobl ifanc 12 i 15 oed gyda'r nod y bydd pawb yn y grŵp oedran hwn wedi derbyn cynnig apwyntiad erbyn 1af Tachwedd.
Rydym yn anfon llythyrau i gyfeiriadau cartref gyda manylion apwyntiad wedi'i drefnu mewn Canolfan Brechu Torfol yn Abertawe neu Castell-nedd Port Talbot.
Dyna i gyd am yr wythnos hon. Diolch yn fawr am ddarllen.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.