Mae pandemig Covid-19 wedi achosi aflonyddwch sylweddol i'n gwasanaethau GIG. Rydym wedi parhau i ddarparu gofal fel arfer i gleifion sydd angen triniaethau brys (trwy'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, gwasanaethau Canser ac ati) er bod llawer o apwyntiadau a thriniaethau arferol wedi'u gohirio.
Rydym yn ceisio ailgychwyn llawer o'r gwasanaethau arferol sydd wedi'u gohirio. Os bydd rhaid i chi fynd i un o'n safleoedd ysbytai neu glinigau cymunedol, fe welwch fod y ffordd maen nhw'n cael eu rhedeg bellach wedi'i newid ychydig i ddarparu ar gyfer rheoliadau pellhau cymdeithasol.
Cliciwch ar wasanaeth isod i wirio am y wybodaeth ddiweddaraf wedi'i diweddaru.
Os oes gennych gwestiwn penodol yn ymwneud â'ch amgylchiadau personol, ffoniwch y rhif ar eich llythyr apwyntiad.
Os ydych chi'n cael llawdriniaeth ddewisol yn un o'n hysbytai, byddwch chi'n cael prawf Covid-19 ymlaen llaw.
Bydd unrhyw un sy'n cael ei atgyfeirio i wasanaeth gan eu meddyg teulu yn derbyn llythyr apwyntiad fel arfer. Os bydd eich symptomau'n gwaethygu wrth i chi aros, cysylltwch â'ch meddyg teulu.
SYLWCH: Oherwydd y pwysau cynyddol cyfredol gan Covid-19, mae'r gwasanaethau canlynol yn cael eu hadolygu, a bydd unrhyw wybodaeth wedi'i diweddaru yn cael ei phostio cyn gynted â phosibl.