Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Allan o Oriau Meddygon Teulu /Gwasanaeth Ffôn 111

Ffoniwch 111 os ydych chi'n credu bod angen apwyntiad meddyg teulu arnoch y tu allan i oriau arferol.

Mae'r Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu yn gweithredu o 6.30pm i 8am yn ystod yr wythnos a thrwy'r dydd ar benwythnosau a gwyliau banc.

Bydd eich galwad yn cael ei hateb gan rywun sy'n derbyn galwadau hyfforddedig a fydd yn cymryd rhai manylion ac yna bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn eich ffonio'n ôl i asesu eich anghenion.

Byddwch yn cael cynnig cyngor hunangymorth neu apwyntiad yn un o ganolfannau gofal sylfaenol Bae Abertawe yn ysbytai Treforys a Chastell-nedd Port Talbot.

Weithiau, os yw'r meddyg teulu o'r farn bod angen gwneud hynny, gellir trefnu ymweliad cartref.

Hefyd ffoniwch 111 i gael mynediad at Galw Iechyd Cymru, gwasanaeth gwybodaeth a chyngor iechyd sydd ar gael 24 awr y dydd.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.