Neidio i'r prif gynnwy

Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg

Menter Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydweithredol yw Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg sy'n cynnwys:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
  • Cyngor Abertawe
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  • Sefydliadau yn y Trydydd Sector a'r Sector Annibynnol
  • Cynrychiolwyr dinasyddion a gofalwyr

Sefydlwyd y fenter gydweithredol a adwaenwyd yn flaenorol fel Bae'r Gorllewin yn 2012 â'r nod o integreiddio gwasanaethau'n fwy effeithiol. Ei nod yw archwilio ffyrdd newydd a blaengar o weithio er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n gynaliadwy wrth i ni wynebu galw cynyddol a hinsawdd ariannol heriol.

Mae Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg bellach yn canolbwyntio ar dri maes 'trawsnewid', y mae gan bob un ohonynt brosiectau a ffrydiau gwaith cysylltiedig sy'n cael eu cyflwyno yng nghyd-destun Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Y rhain yw:

  • Y Bwrdd Trawsnewid Oedolion (y mae ei flaenoriaethau allweddol yn cynnwys Oedolion Hŷn, y Rhaglen Gomisiynu ar gyfer Anghenion Cymhleth, Dementia, Fframwaith Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl, y Fframwaith Strategol ar gyfer Anableddau Dysgu).
  • Y Bwrdd Trawsnewid Plant ac Oedolion Ifanc (y mae ei flaenoriaethau allweddol yn cynnwys y Gwasanaeth Cefnogi Lleoliadau Amlasiantaeth, Plant ag Anghenion Cymhleth a'r Cynllun Datblygu Strategol Rhanbarthol).
  • Y Bwrdd Trawsnewid Integredig (y mae ei flaenoriaethau allweddol yn cynnwys Gofalwyr, Trawsnewid Digidol, Trawsnewid mewn Rhwydweithiau a System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru).

I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch Swyddfa Trawsnewid Gorllewin Morgannwg ar 01792 633805 neu e-bostiwch west.glamorgan@abertawe.gov.uk

 

Adroddiad Blynddol

Adroddiad Blynyddol Bae'r Gorllewin 2018-19

Adroddiad Blynyddol Bae'r Gorllewin Darllen Hawdd 2018-19

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.