Neidio i'r prif gynnwy

Clwstwr Iechyd y Ddinas

Logo ar gyfer Clwstwr Iechyd y Ddinas

Pa bractisau meddygon teulu sydd yng Nghlwstwr Iechyd y Ddinas?

Canolfan Iechyd Brunswick, Partneriaeth Feddygol Abertawe a Meddygfa'r Stryd Fawr, Canolfan Feddygol Greenhill a Meddygfa'r Clase, Meddygfa Ffordd y Brenin, Canolfan Iechyd Mountain View, Meddygfa Stryd Nicholl, Canolfan Feddygol SA1 a Meddygfa Dewi Sant a Chanolfan Feddygol Glannau'r Harbwr.

Pa gefnogaeth sydd ar gael?

Ffordd iach o fyw

Cynllun Hamdden Egnïol 60+

Mae yna nifer o wahanol gyfleoedd ymarfer corff i bobl dros 60 oed yn Abertawe.

Mae rhestr o'r sesiynau cyfredol ar gael ar wefan Cyngor Abertawe. Dilynwch y ddolen hon i wefan Cyngor Abertawe i ddod o hyd i'r rhestr.

Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan

Bydd cleifion sydd wedi’u nodi fel rhai sydd mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2 yn dilyn prawf gwaed yn cael cynnig ymyriad 30 munud gyda gweithiwr cymorth dietetig sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig.

Mae'r ymyriad yn trafod pynciau fel gweithgaredd corfforol, bwyta'n iach ac yn hyrwyddo newidiadau eraill i'ch ffordd o fyw fel rhoi'r gorau i ysmygu a lleihau alcohol.

Anogir cleifion i ddilyn y newidiadau ffordd o fyw a drafodwyd, gyda'r nod o atal neu leihau'r risg o ddatblygu'r cyflwr.

Fit Jacks

Mae Fit Jacks yn cael ei rhedeg gan Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, ac mae'n rhaglen iechyd a lles 12 wythnos sy'n cyfuno gwybodaeth am ddewisiadau iachach â sesiynau ffitrwydd wythnosol am ddim sy'n darparu ar gyfer eich lefelau ffitrwydd.

Fe’i lansiwyd o fewn Clwstwr Iechyd y Ddinas ym mis Ionawr, gyda dosbarthiadau’n cael eu cynnal yn Stadiwm Swansea.com ar Ddydd Gwener am 6yh.

Dilynwch y ddolen hon i wefan Dinas Abertawe i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen.

Cymorth cyffuriau ac alcohol Newid

Newid yw'r pwynt mynediad sengl ar gyfer pobl sy'n cael eu heffeithio gan gyffuriau ac alcohol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Mae'n darparu ystod o wasanaethau cymorth mewn amrywiaeth o leoliadau. Er mwyn gallu deall anghenion pob person yn llawn, mae'n well cysylltu â'r aelodau staff profiadol.

Mae Newid yn cynnig ymgysylltu mynediad agored drwy Barod ac Adferiad (WCADA gynt) ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae hyn yn golygu y gallwch gerdded i mewn i wasanaethau heb fod angen apwyntiad.

Dilynwch y ddolen hon i wefan Newid i ddod o hyd i ragor o wybodaeth ac i gysylltu â'r tîm am gefnogaeth.

Cefnogaeth lles

Rhagnodydd cymdeithasol

Mae rhagnodi cymdeithasol wedi’i gynllunio i gefnogi pobl ag ystod eang o anghenion cymdeithasol, emosiynol neu ymarferol, ac mae llawer o gynlluniau’n canolbwyntio ar wella iechyd meddwl a lles corfforol.

Gall cynlluniau rhagnodi cymdeithasol gynnwys amrywiaeth o weithgareddau a ddarperir fel arfer gan sefydliadau yn y sector gwirfoddol a chymunedol.

Rhagnodwr cymdeithasol y clwstwr yw: Stephanie Bailey.

E-bost: city@scvs.org.uk

Mind Abertawe

Mae'r sefydliad iechyd meddwl sydd wedi'i leoli yn Abertawe yn cynnig cymorth i oedolion a phobl ifanc.

Cysylltwch â: 01792 642999 neu e-bost: admin@swanseamind.org.uk

Cydlynwyr Ardal Leol

Gall eich cydlynydd ardal leol eich helpu i ddod o hyd i gefnogaeth a chyngor yn eich cymuned.

Gallant eich helpu i ddod i wybod am eich cymuned a'ch cyflwyno i bobl gyfeillgar a chymwynasgar ynddi.

Gallant eich helpu i archwilio ac adeiladu ar eich cryfderau a gallant eich cefnogi i rannu eich sgiliau a'ch doniau ag eraill. Gallant eich helpu i gysylltu â gwasanaethau ffurfiol os mai dyna sydd ei angen arnoch yn eich barn chi.

Y cydlynwyr ardal leol yw:

St Thomas, SA1 Glannau a Bonymaen: Dan Morris

E-bost: dan.morris@swansea.gov.uk

Brunswick, Marina a Sandfields: Zara Simisker

E-bost: zara.simisker@swansea.gov.uk

Townhill, Mayhill a Gors Avenue: Bethan McGregor

E-bost: bethan.mcgregor@swansea.gov.uk

Dyfatty, Mount Pleasant a Waun Wen: Jon Bevis

E-bost: jon.bevis@swansea.gov.uk

Cefnogaeth i roi'r gorau i ysmygu

Helpa Fi i Stopio

Mae gwasanaeth Helpa Fi i Stopio yn cynnig 12 wythnos o gefnogaeth ymddygiadol ac emosiynol am ddim trwy gyfarfodydd unigol neu grŵp.

Gall cleifion gael mynediad i sesiynau wythnosol, naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, lle mae trafodaethau yn ymwneud â pham eu bod yn ysmygu, newidiadau ymddygiad a straen.

Mae’n cynnig cymorth cyfrinachol ac anfeirniadol am ddim gan arbenigwr rhoi’r gorau i ysmygu cyfeillgar.

Os hoffech gyfeirio eich hun at y gwasanaeth, gallwch gysylltu â Helpa Fi i Stopio ar 0800 085 2219, anfon neges destun at HMQ i 80818 neu anfon e-bost at SBU.HMQ@wales.nhs.uk .

Os hoffech gael cymorth drwy fferyllfa, ewch i'ch fferyllfa leol i gael rhagor o wybodaeth.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.