Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth cleifion allanol

Tudalen wedi'i chreu: 11.11.22

Ar y tudalennau hyn fe welwch wybodaeth am ein clinigau cleifion allanol a sut i gael cludiant am ddim i gleifion.

Sylwch fod yr adran hon yn cael ei datblygu. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei ychwanegu.

Neidio i rifau ffôn

Ewch i'r dudalen hon am y wybodaeth ymweld ddiweddaraf

Yr hyn a wnawn

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gweld tua 30,000 o gleifion allanol bob mis, naill ai mewn apwyntiadau wyneb yn wyneb lle bo’n briodol neu’n rhithiol, drwy ymgynghoriad fideo neu dros y ffôn.

Rydym yn blaenoriaethu cleifion i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gweld yn y ffordd fwyaf priodol cyn gynted â phosibl.

Mae hyn yn golygu:

  • Dim ond pan fo gwir angen y byddwn yn gofyn i chi fynychu apwyntiad wyneb yn wyneb mewn ysbyty neu leoliad arall. Er enghraifft, pan fydd angen prawf neu archwiliad corfforol arnoch.
  • Os bydd angen i ni eich gweld yn bersonol, efallai y bydd eich apwyntiad yn unrhyw un o'n safleoedd gan y byddwch yn cael cynnig yr apwyntiad sy'n galluogi mynediad cynharaf at y gofal sydd ei angen arnoch.
  • Dim ond os yw'n iawn i chi y cewch gynnig ymgynghoriad ffôn neu fideo. Ond rydym yn defnyddio’r apwyntiadau hyn mewn mwy o achosion gan iddynt fod yn hynod lwyddiannus yn ystod anterth y pandemig Covid pan fu’n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd arloesol o weithio.
  • Boed wyneb yn wyneb neu'n rhithwir, byddwch yn cael eich gweld gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mwyaf priodol ar gyfer eich cyflwr. Nid ymgynghorydd fydd hwn bob amser.

 

Sut rydym yn cysylltu â chi

Gellir cysylltu â chi dros y ffôn i drefnu apwyntiad neu i dderbyn llythyr yn y post. Efallai y byddwn hefyd yn anfon nodyn atgoffa apwyntiad atoch trwy neges destun.

Tra byddwch chi'n aros

Yn ystod eich amser yn aros am apwyntiad, efallai y byddwn yn cysylltu â chi o bryd i'w gilydd i sicrhau bod angen eich apwyntiad arnoch o hyd ac i wirio bod eich holl fanylion cyswllt yn gyfredol.

Gall hyn fod ar ffurf neges destun neu lythyr. Darllenwch y neges yn ofalus a lle gofynnir i chi ymateb, gwnewch hynny'n brydlon oherwydd, mewn rhai achosion, gallai peidio ag ymateb arwain at eich tynnu oddi ar y rhestr aros.

 

Apwyntiadau a gollwyd

Gwnewch bob ymdrech i ddod i'ch apwyntiad.

Bob blwyddyn mae tua 60,000 o apwyntiadau cleifion allanol yn cael eu gwastraffu oherwydd nad yw cleifion yn mynychu. Dyna ddigon o bobl i lenwi Stadiwm Abertawe.com (Liberty) deirgwaith drosodd.

Os nad yw eich apwyntiad a neilltuwyd bellach yn addas, mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni, fel y gallwn roi slot eich apwyntiad i glaf arall. Ond cofiwch, gallai canslo eich apwyntiad effeithio ar hyd yr amser y byddwch yn aros. A gallai peidio â mynychu heb roi gwybod i ni ymlaen llaw arwain at eich tynnu oddi ar y rhestr aros. I aildrefnu neu ganslo apwyntiad, dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau ar eich llythyr neu neges destun neu gwelwch y rhifau cyswllt isod:

Rhifau cyswllt cleifion allanol:

Prif adran archebu cleifion allanol – 01792 583700 (8am i 4pm Dydd Llun i Ddydd Gwener) e-bost: sbu.appointmentoffice@wales.nhs.uk

Profion gwaed - 01792 601807

Clinigau gwasanaeth y fron - 01792 200409

CMATS – 01639 862418

Gwasanaeth ymataliaeth – 01792 532424

Rhiwmatoleg - 01639 862104

Ffisioleg glinigol Treforys – 01792 704100

Podiatreg – 0300 3000024

Iechyd rhywiol – 0300 5550279

Awdioleg Singleton – 01792 285270

Ffisiotherapi uniongyrchol Abertawe – 01792 487453

Ymholiadau DSU cleifion mewnol offthalmoleg – 01792 285063

 


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.