Neidio i'r prif gynnwy

Ein Gwefannau, Manylion Cyswllt a Chyfarwyddiadau

Orthopteg yn Ysbyty Singleton

Delwedd allanol o Ysbyty Singleton

Mae'r clinig orthopteg yn Ysbyty Singleton wedi'i leoli yn yr adran cleifion allanol ar Goridor 6.

Mae yna dderbynfa, 4 ystafell glinig gan gynnwys 3 ystafell brofi gyffredinol, ystafell oedolion ac ystafell ar gyfer profi babanod. Mae yna hefyd ystafell chwarae i blant ac ardal aros benodol.

Mae cysylltiad agos rhwng yr adran hon a'r adran offthalmoleg ar Goridor 7.

Delwedd fewnol o Ysbyty Singleton

Delwedd fewnol o Ysbyty Singleton

Delwedd fewnol o Ysbyty Singleton

Cyfarwyddiadau teithio o'r Gorllewin

  • Gadewch draffordd yr M4 ar gyffordd 47. Ar y gylchfan, cymerwch y 3ydd troad i'r A483
  • Wrth y gylchfan, cymerwch y troad cyntaf a pharhewch ar yr A483
  • Ewch ymlaen ar hyd y ffordd, trwy'r set nesaf o oleuadau traffig
  • Wrth y 3edd set o oleuadau (gyferbyn â Thafarn y Marquis Arms) trowch i'r dde i Ffordd yr Orsaf
  • Ewch ymlaen yn syth ar hyd yr A4216 (Heol y Cocyd)
  • Ewch yn syth ymlaen ar y gylchfan fach gyntaf ac yn syth wedi hynny, ewch i'r dde i Ffordd Vivian wrth y gylchfan fach nesaf
  • Ewch ymlaen ar hyd yr A4216. Wrth y goleuadau traffig, parhewch yn syth ymlaen. Wrth y set nesaf o oleuadau traffig, trowch i'r chwith i Heol Parc Sgeti
  • Wrth y gylchfan cymerwch y troad cyntaf i Lôn Sgeti (A4216)
  • Wrth y goleuadau trowch i'r chwith
  • Bydd eich cyrchfan ar y chwith

Cyfarwyddiadau teithio o'r Dwyrain

  • Gadewch draffordd yr M4 ar gyffordd 42 (Abertawe A483) lle bydd y slipffordd yn dod â chi i Ffordd Fabian (A483)
  • Ewch ymlaen i Rodfa'r Cei A4067
  • Parhewch i ddilyn yr A4067 gan basio Tesco Extra, maes Criced Sain Helen a Phrifysgol Abertawe
  • Trowch i'r dde i Lôn Sgeti, bydd Parc Singleton ar eich ochr dde.
  • Ewch i'r lôn ar y dde
  • Wrth y goleuadau, trowch i'r dde
  • Bydd eich cyrchfan ar y dde

Orthopteg yng Nghastell-nedd Port Talbot

Delwedd allanol o Ysbyty Castell-nedd Port Talbot

Mae clinig Orthopteg Castell-nedd wedi'i leoli yn y Clinig Llygaid, ar lefel uchaf yr adran Cleifion Allanol.

Mae'r adran yn cynnwys dwy ystafell glinig, man chwarae i blant ac ardal aros i gleifion.

Delwedd fewnol o Ysbyty Castell-nedd Port Talbot

Delwedd fewnol o Ysbyty Castell-nedd Port Talbot

 

 

 

 

 

Cyfarwyddiadau teithio o'r Gorllewin

  • Gadewch draffordd yr M4 ar gyffordd 42, cymerwch allanfa'r A48 / A483 i Lansawel / Abertawe
  • Ewch ymlaen i'r A48
  • Wrth y gylchfan, cymerwch y 3ydd troad ac aros ar yr A48
  • Wrth y gylchfan cymerwch y 4ydd troad i Seaway Parade / A4241
  • Ar y gylchfan, cymerwch y troad cyntaf
  • Wrth y gylchfan, cymerwch yr 2il droad at Ffordd Baglan
  • Trowch i'r chwith, ewch trwy 1 gylchfan
  • Bydd eich cyrchfan ar y chwith

Cyfarwyddiadau teithio o'r Dwyrain

  • Gadewch yr M4 ar gyffordd 38, yr A48 i Bort Talbot
  • Ar y gylchfan cymerwch yr 2il droad  i Ffordd Margam A48
  • Ar y gylchfan, cymerwch y troad 1af i Ffordd yr Harbwr / A4241
  • Wrth y gylchfan, cymerwch yr 2il droad ac aros ar Ffordd yr Harbwr / A4241
  • Wrth y gylchfan, cymerwch yr troad 1af ac aros ar Ffordd yr Harbwr / A4241
  • Wrth y gylchfan, cymerwch yr 2il droad ac aros ar Ffordd yr Harbwr / A4241
  • Ar y gylchfan, cymerwch yr 2il droad i A4241
  • Wrth y gylchfan, cymerwch yr 2il droad i Ffordd Afan / A4241
  • Wrth y gylchfan, cymerwch y 3ydd troad i Ffordd Baglan
  • Trowch i'r dde yn Heol Aberafan
  • Ewch trwy 1 gylchfan
  • Bydd eich cyrchfan ar y chwith

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.