Neidio i'r prif gynnwy

Diplopia (gweld dwbl) a rheolau gyrru

Yn ddiweddar, mae'r DVLA wedi newid y safonau ar gyfer rhoi gwybod am rai cyflyrau llygaid. Cymerwyd y wybodaeth hon o dudalennau gwybodaeth y DVLA ac rydym yn eich hysbysu o'ch cyfrifoldebau fel gyrrwr i roi gwybod am gyflwr eich llygaid.

Rhaid i chi ddweud wrth DVLA os oes gennych ddiplopia (gweld dwbl).

Ymholiadau meddygol gan yrwyr i'r DVLA - Ffôn: 0300 790 6806

Gallwch gael dirwy o hyd at £1,000 os na fyddwch yn dweud wrth y DVLA am gyflwr meddygol sy'n effeithio ar eich gyrru. O ganlyniad, efallai y cewch eich erlyn os byddwch chi mewn damwain.

Os oes gennych chi drwydded car neu feic modur, dilynwch y ddolen hon i'r ffurflen V1 sydd ar gael ar wefan y Llywodraeth, llenwch hi a'i hanfon at y DVLA. Mae'r cyfeiriad ar y ffurflen.

Os oes gennych chi drwydded bws, coets neu lori, dilynwch y ddolen hon i'r ffurflen V1V sydd ar gael ar wefan y Llywodraeth, llenwch hi a'i hanfon at y DVLA. Mae'r cyfeiriad ar y ffurflen.

Gallwn ddarparu copi o'r ffurflenni hyn i chi ar eich cais neu gallwch lawrlwytho'r ffurflenni V1 a V1V trwy ddilyn y ddolen hon i dudalen we'r Llywodraeth ar gyfer Diplopia a Gyrru.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.