Ail-agorodd y Ganolfan Eni yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ar 16eg Medi 2024. Ewch yma i ddarllen ein datganiad diweddaru llawn. Os ydych yn feichiog ac yr hoffech ddefnyddio Canolfan Geni Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, cofiwch gysylltu â'r ganolfan ar 01639 862103 cyn mynychu.
Os hoffech drafod unrhyw beth ynghylch y cyhoeddiad neu eich opsiynau geni, cysylltwch â'ch tîm cymunedol, dylai'r niferoedd ar gyfer y timau fod ar eich cofnod mamolaeth neu gallwch ddilyn y ddolen hon i gael manylion cyswllt ar gyfer pob tîm bydwragedd cymunedol.
Mae gwybodaeth am y gwahanol leoliadau geni ar gael yma.
Gall unrhyw un sy'n dymuno cofrestru ar gyfer gofal mamolaeth wneud hynny'n uniongyrchol gyda'u tîm bydwreigiaeth gymunedol (Llun-Gwener 9yb-5yp). Gellir cael rhifau cyswllt gan eich meddyg teulu neu o'n gwefan.
Gweler isod am ragor o wybodaeth a chysylltiadau defnyddiol.
Am wybodaeth ymweld ewch i'r dudalen hon.
Osgowch ddefnyddio ein ffreuturau ar hyn o bryd. Mae peiriannau gwerthu ar gael ar ein safleoedd os oes angen lluniaeth arnoch.
Sylwch fod BIPBA yn cefnogi safiad dim goddefgarwch ar gyfer unrhyw ymddygiad camdriniol tuag at staff oherwydd amrywiadau mewn canllawiau ymweld ar gyfer gwahanol grwpiau cleifion.
Ewch i dudalen Facebook Gwasanaethau Mamolaeth Bae Abertawe.
AM DDIM ledled Cymru. I bawb o amgylch y babi: Mamau, Tadau, Teidiau a Neiniau, ffrindiau a pherthnasau.
Deall beichiogrwydd, esgor, genedigaeth a'ch babi - Ar gael 24/7
Mae gennym chwe ystafell ynghyd â phwll geni. Rydym ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Mae bydwragedd wrth law yn ein huned cartref-oddi-cartref i'ch arwain a'ch cefnogi yn ystod y cyfnod esgor a genedigaeth.
Mae ein profiad yn dweud wrthym fod teuluoedd yn elwa o amser gyda'i gilydd, felly rydym yn annog partneriaid i aros yn un o'n hystafelloedd dwbl.
Dim ond chwarter y mamau tro cyntaf ac 8% o'r merched sydd wedi rhoi genedigaeth o'r blaen sy'n debygol o fod angen trosglwyddo i Ysbyty Singleton tua adeg eu geni.
Mae mwyafrif y merched sy'n cael eu trosglwyddo am resymau nad ydynt yn rhai brys, nad ydynt yn bygwth bywyd. Mae amser trosglwyddo tua awr.
Angen cymorth pellach? Mae'r ddolen hon yn mynd â chi at daflen penderfyniad lleoedd geni.
Yn anffodus, daw'r ddolen uchod gan drydydd parti ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.