Neidio i'r prif gynnwy

Y diweddaraf am enedigaethau yn y cartref a Chanolfan Geni CNPT: Medi 2024

Canolfan Geni yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot a Gwasanaeth Geni Gartref i ailddechrau: Diweddariad 10fed Medi 2024

Mae'r Ganolfan Geni dan arweiniad bydwragedd yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot yn ailagor ar 16eg Medi, ar ôl saib o dair blynedd yn y gwasanaeth. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe hefyd yn ailgyflwyno ei Wasanaeth Geni Gartref o 21ain Hydref.

Ewch yma i ddarllen y diweddariad llawn, a gyhoeddwyd ar 10fed Medi, 2024, yn dilyn cyfarfod arbennig o Fwrdd BIP Abertawe.

Os ydych yn feichiog ac yn dymuno defnyddio Canolfan Geni Ysbyty Castell Nedd Port Talbot, cofiwch gysylltu â'r ganolfan ar 01639 862103 cyn mynychu.

17/09/2024: Datganiad newyddion - Y babi cyntaf a aned wrth i Canolfan Geni Castell-nedd Port Talbot ail-agor

Gwasanaeth Geni Gartref

Mae’r Gwasanaeth Geni Gartref yn cael ei ailgyflwyno o 21ain Hydref 2024.

Os hoffech drafod unrhyw beth am eich opsiynau geni, cysylltwch â'ch tîm cymunedol, dylai'r rhifau ar gyfer y timau fod ar eich cofnod mamolaeth neu gallwch ddilyn y ddolen hon i gael manylion cyswllt pob tîm bydwragedd cymunedol.

Mae gwybodaeth am y gwahanol leoliadau geni ar gael yma.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.