Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad gwasanaethau Mamolaeth, Genedigaethau Cartref a Chanolfan Geni CNPT: Medi 2024

Canolfan Geni Ysbyty Castell-nedd Port Talbot a'r Gwasanaeth Geni Cartref i ailddechrau: Diweddariad 10fed Medi 2024

Mae'r Ganolfan Eni dan arweiniad bydwragedd yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn ailagor ar 16eg Medi, ar ôl saib tair blynedd yn y gwasanaeth. Mae BIP Bae Abertawe hefyd yn ailgyflwyno ei Wasanaeth Geni Cartref o 21ain Hydref.

Ewch yma i ddarllen y diweddariad llawn, a gyhoeddwyd ar 10fed Medi, 2024, yn dilyn cyfarfod arbennig o BIP Bae Abertawe.

 

Diweddariad gwasanaethau Mamolaeth, Genedigaethau Cartref a Chanolfan Geni CNPT: Gorffennaf 2024

Ailagor Canolfan Geni Castell-nedd Port Talbot a'r Gwasanaeth Geni Gartref

Isod mae dyfyniad o adroddiad interim y Prif Weithredwr ar gyfer cyfarfod Bwrdd Prifysgol Bae Abertawe ar 25ain Gorffennaf:

"Mae ein Bwrdd Rheoli wedi cymeradwyo ailagor Canolfan Geni Ysbyty Castell-nedd Port Talbot a'r gwasanaeth Geni yn y Cartref yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol gan y Bwrdd. Roedd hyn yn dilyn proses adolygu gynhwysfawr yn cynnwys nifer o 'byrth' ffurfiol a mewnbwn ac ymgysylltiad staff sylweddol.

"Cawsom gyfarfod adeiladol gyda chydweithwyr yn yr Undebau Llafur yr wythnos hon lle buom yn amlinellu ein dull o ymdrin â'r materion a godwyd ganddynt. Mae ein dull yn canolbwyntio ar gynnal y status quo o ran staffio yn Singleton tra'n symud ymlaen ar wahân i ailagor y Ganolfan Geni yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot. Bydd cynnig ffurfiol ar gyfer ailagor y gwasanaethau hyn yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd i'w gymeradwyo cyn gynted ag y bydd adolygiad terfynol o'r camau gweithredu wedi'i gwblhau."

Ewch yma i ddarllen adroddiad llawn y Prif Weithredwr:

Safle gwasanaeth presennol

Er bod cynlluniau bellach ar waith i adfer gwasanaethau mamolaeth - fel yr amlinellwyd uchod - am y tro mae atal dros dro ein gwasanaeth geni yn y cartref, yn ogystal â chau Canolfan Geni Castell-nedd Port Talbot dros dro, yn parhau. Mae hyn er mwyn sicrhau y gallwn gynnal gofal diogel. Mae’r penderfyniad hwn wedi’i wneud yn unol â’r canllawiau proffesiynol gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd ac Obstetryddion a Gynaecolegwyr.

Gwerthfawrogwn y gallai hyn achosi siom, ond gallwn eich sicrhau na chymerwyd y penderfyniad i atal y gwasanaeth hwn yn ysgafn.

Byddem yn gofyn i chi gysylltu â ni cyn gynted ag y bydd gennych unrhyw arwyddion o esgor, a fydd yn ein helpu i gynllunio eich gofal.

Dilynwch y ddolen hon i gael manylion cyswllt pob tîm bydwragedd cymunedol.

Efallai yr hoffech ystyried ein Huned Geni yn y Bae yn ysbyty Singleton. Mae hyn yn cael ei arwain gan fydwragedd, gydag ystafelloedd unigol ac amgylchedd cartref-oddi-cartref go iawn.

Mae croeso i bartneriaid cymorth hanfodol fynychu pob lleoliad pan fydd gennych asesiad cychwynnol wrth esgor.

Ochr yn ochr â'r Uned Bydwreigiaeth (Uned Geni'r Bae), mae ar agor 24 awr 7 diwrnod yr wythnos. Mae Uned Geni’r Bae yn dilyn yr un model o ofal dan arweiniad bydwreigiaeth ag yn y cartref ac uned bydwreigiaeth annibynnol, ac mae’n opsiwn i lawer o fenywod. Mae rhagor o wybodaeth am y dewis hwn o leoliad geni ar gael trwy ddilyn y ddolen hon i dudalen we Uned Geni'r Bae.

Byddwn yn adolygu'r sefyllfa hon bob pythefnos a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi cyn gynted ag y bydd gennym unrhyw newidiadau. Byddem yn annog y teuluoedd hynny sydd wedi cynllunio genedigaeth gartref i gysylltu â'u bydwraig gymunedol i drafod yr opsiynau sydd ar gael.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu canllawiau ar COVID-19 ac ymweliadau ag ysbytai yn y Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol. Dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth am ganllawiau ymweld ag ysbytai mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn deall bod ein cyfyngiadau gwasanaeth heb os wedi cael effaith fawr ar eich taith mamolaeth a diolchwn i chi am eich dealltwriaeth a'ch amynedd.

Os hoffech drafod unrhyw beth ynghylch y cyhoeddiad neu'ch opsiynau geni, cysylltwch â'ch tîm cymunedol, dylai'r rhifau ar gyfer y timau fod ar eich cofnod mamolaeth neu gallwch ddilyn y ddolen hon i gael manylion cyswllt pob tîm bydwragedd cymunedol.

Mae gwybodaeth am y gwahanol leoliadau geni ar gael yma.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.