Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Annibynnol Allanol o Wasanaethau Mamolaeth a Newydd-anedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: Cylch Gorchwyl

Sylwch: diwygiwyd y Cylch Gorchwyl ychydig ar 5ed Medi 2024

Roedd y newid fel a ganlyn:

O dan adran 6.2 Adolygiad Clinigol, newidiwyd pwynt bwled chwech o:

  • Pob babi tymor a gafodd ofal dwys heb ei gynllunio i
  • Babanod pob tymor a gafodd ofal dwys

Sylwer: Mae'r Cylch Gorchwyl Adolygu wedi'i ddiwygio a'i ailgyhoeddi 15fed Awst 2024.

Mae'r newidiadau mewn dau faes:

- Dileu'r terfyn o 5 mlynedd (daeth i ben yn 2019) ar gyfer hunangyfeirio teuluoedd sy'n dymuno cael eu hystyried

- Ehangu ymgysylltiad staff i gynnwys pob disgyblaeth staff

1. Cyflwyniad

Mae'r dogfen hon yn gosod allan y sgop a'r Cylch Gorchwyl ar gyfer adolygiad annibynnol i'r Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol y Bwrdd Iechyd (yr Adolygiad). Mae'r Adolygiad hwn wedi'i gomisiynu gan y Bwrdd Iechyd i'w alluogi i dderbyn amrywiaeth eang o ddadansoddiad arbenigol annibynnol o'i gwasanaethau a mewnbwn gwerthfawr gan deuluoedd a staff. Drwy'r Adolygiad hwn, mae'n ceisio sicrhau bod yr holl gamau diogelwch a nodwyd yn cael eu gweithredu a'u monitro'n llawn i sicrhau y gellir cynnal unrhyw welliannau yn y gwasanaethau. 

2. Cefndir

Mae gwasanaethau mamolaeth a newydd-anedig y Bwrdd Iechyd wedi bod yn destun craffu ers o leiaf 2019 ac yn ystod y pum mlynedd diwethaf bu nifer o adolygiadau mewnol ac allanol a mae rhain wedi'u crynhoi yn yr Atodiad.

Fe wnaeth canfyddiadau o'r adolygiad hynny yn cynnwys themau cyffredin o gwmpas profiad cleidion, diwylliant adrannol a gofal clinigol. Mae'r Bwrdd Iechyd wedi derbyn canfyddiadau'r adolygiadau hyn o'r blaen ac wedi datblygu cynlluniau gwella canlyniadol i gefnogi gwasanaethau i ddysgu a gwella canlyniadau i fenywod, babanod a'u teuluoedd. Fodd bynnag, mae'r Bwrdd Iechyd yn ymwybodol iawn o bryderon parhaus yn y boblogaeth leol y mae'n eu gwasanaethu ac, yng ngoleuni data MBRRACE-UK, mae'r Adolygiad cyfredol wedi'i gomisiynu i benderfynu a oedd argymhellion a oedd yn deillio o adolygiadau blaenorol yn nodi'r holl ddysgu ac wedi arwain at welliannau priodol yn y gwasanaeth ac, yn bwysig, p'un a yw problemau, ac os felly, yn parhau neu wedi codi ers yr adolygiadau hynny y mae angen eu datrys i sicrhau diogelwch ac effeithiolrwydd y gwasanaethau presennol ac i ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder ynddynt.  

3. Nodau'r Adolygiad:

  • Sicrhau bod profiad teulu a staff o'r Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol yn ganolog i'r adolygiad hwn, eu darganfyddiadau a'u heffaith felly gall dysgu o'r profiad cael eu cydnabod.
  • Sicrhau bod unrhyw niwed a nodwyd mewn achosion unigol yn cael eu cyfathrebu i ddefnyddwyr y gwasanaeth yn unol â rwymedigaethau y Bwrdd Iechyd o dan y Ddyletswydd Gonestrwydd.
  • Ymgymryd ag adolygiad cyflym o risgiau adrannol i sefydlu os oes unrhyw risgiau sylweddol heb ei gyfrif o fewn y gwasanaeth presennol. Bydd hyn hysbyu'r angen o unrhyw weithredau diogelwch sydd angen ar gam gynnar wrth i'r adolygiad ehangach yn parhau.
  • Ystyried y gofal clinigol o fewn y sgop o'r Cylch Gorchwyl hyn i benderfynu ei rôl yng nghanlyniadau ar gyfer mamaum babanod a theuluoedd.
  • Deall data cyd-destunol allweddol fel demograffeg; iechyd y boblogaeth, ac, er enghraifft, data anghydraddoldeb; a weithgaredd adrannol i gydnabod materion cyfrannol.
  • Ystyried yr effaith ehangach y pandemig ar weithgaredd a llywodraethu.
  • Ystyried, ar sail ward i fwrdd, y trefniadau arweinyddiaeth bresennol, ansawdd, diwylliant a llywodraethu o fewn (perthnasau) rhwng gwasanaethau a ddeall pam na arweiniodd adolygiadau blaenorol at welliannau parhaus.
  • Ystyried themâu ar draws pob llinyn adolygu a darparu dadansoddiad ac adrodd trosfwaol ar y ddau hanesyddol (o 2019 pan ddechreuodd yr adolygiadau allanol dynnu sylw at bryderon difrifol) a materion cyfoes o fewn gwasanaethau mamolaeth a newydd-anedig.
  • Darparu argymhellion i wella Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol y Bwrdd Iechyd a chanlyniadau i fabanod a'u teuluoedd.
  • Cydnabod gweithredoedd y mae angen i'r Bwrdd Iechyd cymryd i sefydlu trefniadau ymgysylltu effeithiol sy'n cynnwys cleifion, teuluoedd a staff yn weithredol yn y gwella o wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol i ail-adeiladu ymddiriedolaeth cyhoeddus ehangach.
  • Bydd y panel goruchwylio yn edrych am dystiolaeth a sicrwydd bod gweithredoedd blaenoriaeth uchwl wedi'i gweithredu ar sail brys a bod yr holl argymhellion arall sy'n codi o'r Adolygiad wedi'i gweithredu a'i fewnosod gydag amserlen rhesymol.

4. Cylch Gorchwyl

Yr Adolygiad, fel yr uchod, yn cynnwys 7 rhan cydgysylltu allbwn adolygiad terfynol

  • Adolygiad o unrhyw risgiau adrannol presennol;
  • gofal clinigol a ddarpeir (Adolygiad Clinigol);
  • profiad teulu a staff (Adolygiad Ymgysylltu);
  • Data a dadansoddiad cyd-destunol;
  • Effeithau'r pandemig;
  • Arweinyddiaeth; ansawdd; diwylliant, addysgu a llywodraethu (Adolygu Llywodraethu); ac
  • Chydgysylltu allbwn.

Bydd hyn yn adroddiad cydgysylltiol o adolygwyr annibynnol arbenigol a fydd yn cynnal yr Adolygiad. Bydd tîmau yn cydweithio gydag un tîm ymgymhori tynnu ynghyd adroddiad terfynol trosfwaol gydag argymhellion.

5. Rôl y Panel Goruchwylio

  • Adolygu cynnydd yr Adolygiad yn ogystal â chynyddu unrhyw risgiau i'r prosiect a materion perthnasol sy'n codi'n uniongyrchol i Fwrdd y Bwrdd Iechyd.
  • Bydd unrhyw risgiau uniongyrchol i ddiogelwch cleifion (nas nodir yn yr adroddiad rheolaethau cyfredol) yn cael eu dwysáu'n syth i'r tîm clinigol perthnasol a'u hysbysu i'r Panel Goruchwylio i'w drosglwyddo ymlaen i Fwrdd y Bwrdd Iechyd ac i unrhyw gorff perthnasol arall yn ôl yr angen.
  • Cynnal proses sicrwydd barhaus mewn perthynas â chwmpas y Cylch Gorchwyl gyda'r bwriad o ystyried unrhyw adborth gan dimau'r Adolygiad ynghylch yr angen i ehangu cwmpas yr achosion sy'n cael eu hystyried.
  • Darparu craffu annibynnol i sicrhau bod yr Adolygiad yn cael ei gwblhau yn unol â'r Cylch Gorchwyl. Fodd bynnag, mae'r Panel Goruchwylio yn ymwybodol nad oes ganddo'r hawl i ddiwygio, newid neu ddylanwadu ar y darganfyddiadau cynradd yr adolygiad annibynnol.
  • Yn dilyn cwblhau'r Adolygiad, bydd yn parhau i orweld y gweithrediad gan y Bwrdd Iechyd o unrhyw argymhellion a wneir yn erbyn y camau milltir y cytunwyd arnynt.
  • Gan fod hyn yn adroddiad yn niddorden y cyhoedd, bydd y Panel Goruchwylio yn gyfrifol am unrhyw adolygiad cyfreithiol cyn cyhoeddi.  Bydd yr adolygiad cyfreithiol yn bennaf i gadarnhau os yw'r adroddiad terfynol wedi bodloni'r cylch gorchwyl ac os yw'r adolygiad yn addas ar gyfer cyhoeddi. Ni fydd gan yr adolygiad cyfreithiol yr hawl i ddiystyru unrhyw un o'r canfyddiadau annibynnol.
  • Ni fydd gan y Bwrdd Iechyd unrhyw rôl wrth gynnal yr Adolygiad nac wrth baratoi'r adroddiad terfynol a chyfrifoldeb yr adolygwyr annibynnol fydd ei gynnwys yn llwyr. 

6. Cwmpas a Methodoleg

6.1 Adolygiad o'r risgiau adrannol presennol

Mae hwn yn gam cychwynnol pwysig mewn proses adolygu aml-ffactor (a all gymryd amser estynedig i'w chwblhau) ac mae'n cynnig sicrwydd ymlaen llaw ar ddiogelwch cyfredol yr adran yn ogystal ag unrhyw gamau adfer brys sy'n ofynnol (ac efallai nad ydynt eisoes yn cael sylw ar hyn o bryd). Bydd hyn yn cynnwys ac yn asesiad o'r canlynol:

  • risgiau gweithredol a diogelwch sy'n fyw ar hyn o bryd
  • unrhyw risgiau sydd heb ei canfod eto neu sgorio'n addas;
  • unrhyw risgiau a all cael eu cyfansawddi (a felly yn fwy brys);
  • y lliniaru risg a'r broses o wneud penderfyniadau ar y risg; ac
  • unrhyw weithredoedd adferol sydd angen (os o gwbl).

6.2 Adolygiad Clinigol

Er mwyn pennu diogelwch y gwasanaeth presennol, bydd yr Adolygiad Clinigol yn asesu gofal mamau a newydd-anedig a ddarperir yn y flwyddyn galendr 2022 gan ddefnyddio offeryn asesu safonol fel a ganlyn:

  • Adrodd pob MBRRACE-UK farw-enedigaethau a marwolaethau newydd-anedig;
  • Pob marwolaeth newyddenedigol <24 wythnos beichiogrwydd (heb ei adrodd ar hyn o bryd gan MBRRACE-UK);
  • Pob baban a farwodd ar yr uned newyddenedigol >28 diwrnod;
  • Pob baban a dderbyniodd hypothermia therapiwtig ar gyfer enseffalopathi isgemig hypocsig tybiedig;
  • Pob baban a gafodd drosglwyddiadau i NIC arall ar gyfer gofal dwys parhaus; ac
  • phob baban a dderbyniodd gofal dwys

Mae'r categorïau hyn o achosion yn cwmpasu'r canlyniadau y gwyddys eu bod yn darparu'r wybodaeth orau am safon ac ansawdd gofal mamol a newydd-anedig a ddarparwyd.

Yn ail, bydd yr holl farwolaethau a adroddwyd gan MBRRACE-UK ar gyfer blynyddoedd calendr 2020 a 2021 yn cael eu hadolygu i nodi'n benodol a oedd themâu sy'n deillio o ofal clinigol wedi cyfrannu at y bwrdd iechyd yn cael ei nodi yn 'goch'.

Yn drydydd, bydd cyfle hefyd i deuluoedd hunangyfeirio os ydynt wedi cael profiadau o ddigwyddiadau nad ydynt wedi'u cynnwys yn y rhestr uchod ac a hoffai i'r rhain gael eu cynnwys yn yr Adolygiad Annibynnol Allanol.

Bydd y tîm Adolygu Clinigol yn sicrhau cydymffurfiad llawn â holl brotocolau Llywodraethu Gwybodaeth y Bwrdd Iechyd a bydd y dull gweithredu yn cynnwys:

  • ymgysylltu â'r tîm amenedigol cyn dechru'r Adolygiad, i ddisgrifio'r Adolygiad. Byd cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda'r Tîm Gweithredol a'r Grŵp Gwasanaeth;
  • adolygu'r holl gofnodion iechyd yn y grwpiau a ddisgrifir uchod, gan gynnwys cofnodion digwyddiadau clinigol ac unrhyw adroddiadau ymchwilio (gan gynnwys adolygiadau cyflym, ymchwiliadau llawn, adroddiadau PMRT) sy'n ymdrin â gofal cynenedigol, intrapartum, ôl-enedigol y menywod a gofal newyddenedigol;
  • gweithio gyda'r tîm llywodraethu ac adolygu data i gefnogi'r adnabyddiaeth o'r tueddiadau a themau, yn cynhyrchu deunydd  ffynonellau addas (gan gynnwys data, graffiau, tueddiadau a deiagramau) a all cael eu trosglwyddo i'r adroddiad hollgyffredinol.
  • tynnu sylw at unrhyw achos lle mae'r tîm Adolygu Clinigol yn barnu y gallai unrhyw ffactorau addasadwy fod wedi effeithio ar ganlyniad gofal i'r fam a/neu'r babi;
  • ystyried a gafodd y safonau cenedlaethol a lleol ar gyfer adrodd marwolaethau eu bodloni;
  • sicrhau bod profiadau, safbwyntiau a chwestiynau teuluoedd yn cael eu cynnwys yn yr adolygiad o'u gofal;
  • llunio dogfen o ganfyddiadau allweddol gydag argymhellion i fwydo i'r adroddiad trosfwaol sy'n helpu i hwyluso'r Bwrdd Iechyd i ddatblygu cynllun gweithredu gyda'r Panel Goruchwylio;
  • darparu gwybodaeth glinigol fanwl i'r Bwrdd Iechyd i gefnogi eu cyfathrebiadau ymlaen â theuluoedd o dan Ddyletswydd Gonestrwydd; a
  • darparu sesiwn adborth i'r timau clinigol.

6.3 Adolygiad Ymgysylltu

Mae safbwyntiau teuluoedd a chydnabyddiaeth o'r effaith ar deuluoedd yn elfennau allweddol o unrhyw adolygiad gwasanaeth amenedigol, ac mae eu profiadau byw yn hanfodol wrth nodi meysydd ar gyfer gwella gwasanaethau a lle mae darparu gwasanaethau'n rhagorol. "Rhieni, ……., yw'r unig unigolion a oedd yn bresennol am y beichiogrwydd cyfan ac felly sydd â phersbectif unigryw ar bopeth a ddigwyddodd iddyn nhw a'u babi" (NPEU, Deunyddiau Ymgysylltu â Rhieni)".

O ganlyniad, bydd yr arweinydd ymgysylltu allanol annibynnol yn gweithio'n agos gyda theuluoedd, defnyddwyr gwasanaeth ac eraill sydd â diddordeb mewn gwella gofal mamolaeth a newydd-anedig i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed drwy gydol y broses ymgysylltu a bod y dulliau a ddefnyddir yn diwallu eu hanghenion. 

Bydd yr adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth yn cael ei gasglu o fis Ionawr 2019 ymlaen er mwyn rhoi mewnbwn amhrisiadwy i'w profiadau byw  (er ei bod yn bwysig nodi y bydd achosion eraill yn cael eu hystyried i'w cynnwys).

Y gweithgareddau craidd ar gyer y Tîm Adolygu Ymgysylltu yw:

  • Sefydlu Grŵp Ymgysylltu a Chyfathrebu i sicrhau bod pob persbectif, yn enwedig rhai teuluoedd, yn cael eu clywed ac yn siapio cyd-gynhyrchu'r broses ymgysylltu, cyfathrebu a gwybodaeth;
  • Cydnabod teuluoedd sy'n dymuno bod yn rhan o'r adolygiad (gallant gynnwys achwynwyr presennol, sylwebyddion cyfryngau cymdeithasol, teuluoedd sydd wedi cael profiadau cadarnhaol, teuluoedd sydd wedi dioddef colled a difrod ac unrhyw un sydd wedi defnyddio gofal mamolaeth a newydd-anedig yn ystod y cyfnod o bum mlynedd;
  • Dyfeisio dulliau cyfathrebu aml-lwyfan a darparu gwybodaeth sy'n ymwneud ag ymddygiad a chynnydd yr adolygiad a'i annibyniaeth, gan sicrhau bod cyfleoedd i deuluoedd lunio sut y gallent fod yn rhan a derbyn adborth ar ganfyddiadau a'r effaith ar newid a gwella;
  • Cysylltu â sefydliadau a grwpiau annibynnol, cymunedol a thrydydd sector, gan gynnwys y Bartneriaeth Lleisiau Mamolaeth a Newyddenedigol (MNVP) a Llais am gymorth i gael mynediad i wahanol grwpiau a chymunedau i sicrhau bod pawb yr effeithir arnynt yn cael cyfle i glywed eu llais;
  • Gweithio gyda theuluoedd i deall sut maent eisiau cael eu cefnogi a rannu eu phrofiadau, yn enwedig wrth ddweud eu storïau yn gyfrannu at y proses adolygu clinigol, ac yn archwilio pa mecanweithiau cymorth bellach efallai eisiau cyrchu;
  • Ymgymryd â chymysgedd o gyfweliadau, grwpiau ffocws, sesiynau galw heibio, ymweliadau, arolygon, ymarferion gwrando a dulliau arall sydd wedi'u hawgrymmu gan deuluoedd a defnyddwyr gwasanaethau i ddeall eu barnau;
  • Adolygu adborth drwy brofiad o fecanweithiau presennol fel holiaduron Ffrindiau a Theuluoedd, arolygon, cwynion, pryderon a dulliau eraill ar gyfer cael adborth ar foddhad â gofal; a
  • Deall y barnau o randdeilliaid arall fel meddygon teulu, grwpiau cymunedol, gwirfoddol a chefnogi sefydliadau gyda diddordeb mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol .

Bydd themâu, canfyddiadau ac astudiaethau achos yn cael eu datblygu'n ddogfen thematig o ganfyddiadau allweddol gydag argymhellion i fwydo i mewn i'r adroddiad cyffredinol sy'n nodi'r negeseuon, pryderon ac argymhellion allweddol ar gyfer gwella gofal. Bydd hyn yn elfen allweddol o'r adroddiad adolygu cyffredinol.

6.4 Ymgysylltu Staff

  • Cynnal ymarfer gyda staff lle gellir datblygu 'llinellau ymholi allweddol' ymgysylltu i ddeall profiadau staff ar bob lefel ac o fewn pob disgyblaeth, gan weithio o fewn y gwasanaethau hyn ers dechrau 2021;
  • Gall staff y tu allan i'r amserlenni hyn hefyd gysylltu â dolen e-bost Niche i gyfrannu at yr adolygiad hwn;
  • Gweithio'n agos gyda'r tîm adolygu llywodraethu i lunio arolwg staff penodol sy'n ymdrin ag agweddau ar brofiad, llywodraethu a diwylliant;
  • Adolygu'r wybodaeth bresennol ar unrhyw faterion sy'n ymwneud â diwylliant neu staffio drwy arolygon staff presennol 'speak-ups' ac unrhyw adolygiadau diwylliant a gynhaliwyd yn flaenorol; a
  • Chydnabod staff sydd efallai wedi gadael y gwasanaeth.

6.5 Data a dadansoddiad cyd-destunol

Adeiladu cronfa o ddata cyd-destunol er mwyn cefnogi a chroesgyfeirio â chanfyddiadau eraill i ychwanegu dyfnder dealltwriaeth at yr adroddiad terfynol, gan gynnwys:

  • Gallu adrannol a llif cleifion (gan gynnwys canlyniadau fel dargyfeiriadau ambiwlans os yw'r uned naill ai ar gau neu'n dargyfeirio rhai derbyniadau i unedau eraill);
  • Cyfraddau genedigaeth ar fis treigl ar sail misol - yn debyg i gyfartaledd blynyddol (dros 3 - 5 mlynedd);
  • Gwybodaeth ddemograffig graidd (ethnigrwydd, oedran, dangosyddion cyfoeth, dangosyddion iechyd, anghydraddoldebau iechyd);
  • Dadansoddiad epidemiolegol (ffactorau risg poblogaeth, cyswllt meddygon teulu, ffactorau risg genetig)
  • Staffio a diogelwch (lefelau staffio (wedi'u haddasu), cymysgedd sgiliau staffio (gan gynnwys locwm), cyfraddau llenwi sifft, gweithgaredd adrannol drwy ddigwyddiad); ac
  • Adroddiadau gan reoleiddwyr, colegau brenhinol, ac ati.

6.6 Effeithau'r pandemig

Gan ddefnyddio gwybodaeth am adolygu data a llywodraethu byddwn yn archwilio prif effeithiau'r pandemig, sy'n effeithio ar yr amserlen sy'n cael ei hadolygu, bydd hyn yn cynnwys:

  • newidiadau i brosesau a llywodraethu a allai fod wedi effeithio ar fynediad at wasanaethau / canlyniadau;
  • gwybodaeth epidemiolegol (Ymchwil diweddaraf ar gyfer mamau / COVID);
  • effeithiau ar gyfraddau digwyddiadau;
  • ddiffiniol cyn ac ar ôl llun ar hyd llinell amser, gyda data cyd-destunol; a
  • chysylltiadau ag effaith ddemograffig/canlyniadau mamol COVID.

6.7 Adolygiad Llywodraethu

Bydd y tîm llywodraethu yn gwneud y canlynol:

  • adolygu trefniadau llywodraethu hanesyddol ers dechrau 2021 gan gynnwys newidiadau i lywodraethu yn ystod y pandemig ac effaith bosibl hyn ar ganlyniadau
  • adolygu'r trefniadau llywodraethu presennol a nodi a oes bylchau gweddilliol yn bodoli;
  • deall a yw'r camau sy'n codi o adolygiadau blaenorol wedi'u cyflawni a'u cynnal;
  • deall os yw'r proses ar gyfer rheoli risg yn ddigonol i leddfu risgiau'n effeithiol i wella ansawdd gofal;
  • deall diwylliant / system ddiogelwch, newidiadau diwylliant a chynlluniau strategol i wella diwylliant;
  • adolygu sut mae pryderon perfformiad ymarferwyr yn cael eu rheoli;
  • deall proffil digwyddiad cyffredinol yr unedau ers dechrau 2021;
  • deall y gŵyn a'r proffil hawliadau ar draws yr unedau ers dechrau 2021;
  • deall sut mae deallusrwydd yn cael ei dynnu'n rheolaidd i ddeall ansawdd gwasanaethau;
  • adolygu dysgu ystyrlon a deall sut mae'n cael ei rannu a'i weithredu;
  • adolygu gwybodaeth y Bwrdd, amseroldeb a deall y digonolrwydd i roi sicrwydd priodol ar ansawdd gwasanaethau a phrofiad cleifion;
  • Adolygu systemau rheoli a sefydlu a oes atebolrwydd clir o amgylch y systemau hynny. A yw llwybrau uwchgyfeirio'n gadarn ac a oes camau gweithredu yn cael eu cymryd pan nodir problemau?
  • deall cydberthnasau rhwng partneriaid, defnyddwyr gwasanaeth, rheoleiddwyr a staff;
  • adolygu prosesau ar gyfer newidiadau gwasanaeth a diweddariadau polisi trwy gydol gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol; a
  • sefydlu a yw rolau wedi'u diffinio'n glir a'u bod yn strwythurau sydd wedi'u cynllunio i gefnogi cydweithio.

6.8 Cydgysylltu allbwn.

Yn cynnwys y tîm adolygu llywodraethu sy'n ymgymryd â rôl ysgrifenyddiaeth graidd wrth dynnu'r adolygiad at ei gilydd i mewn i adroddiad unigol ynghyd ag atodiadau. Sicrhau cyfrifoldeb dros geisio sicrwydd gan y tîm clinigol a'r tîm ymgysylltu ar ganfyddiadau er mwyn sicrhau bod canfyddiadau yn cael eu croesgyfeirio a bod adroddiad terfynol, cydlynol, yn enwedig i:

  • Cefnogi'r tîm adolygu clinigol a'r tîm adolygu profiad i wneud y gorau o'r cwmpas i sicrhau y gellir echdynnu data meintiol ac ansoddol priodol i gefnogi 'y canfyddiadau'. Bydd hyn yn sicrhau bod dulliau cywir yn cael eu defnyddio o'r cychwyn cyntaf;
  • Cydlynu'r archwiliadau rheolaidd fel y gellir bwydo canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg rhwng pob un o'r ffrydiau gwaith. Mae hyn yn ddefnyddiol i ehangu llinellau ymholi allweddol wrth iddynt godi;
  • Darparu diweddariadau ffurfiol i'r Panel Goruchwylio bob pythefnos ac i gydlynu adborth i'r Panel Goruchwylio sefydlog ar draws pob ffrwd waith;
  • Sicrhau bod y dyblygiad o ymdrech yn cael ei lleihau rhyng timoedd;
  • Gofyn am eglurhad ar unrhyw wybodaeth a ddefnyddir i fod yn sail i'r 'darganfyddiadau', i ofyn am ragor o wybodaeth os oes angen ac i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei darparu mewn fformat dibynadwy;
  • Cynhyrchu drafft, adroddiad ac argymhellion ar sail tystiolaeth a goruchwylio pob gwiriad rheoli ansawdd a dilysu ar yr adroddiad terfynol;
  • I orweld proses gwirio anghywirdeb ffeithiol ac unrhyw hawl i gynhyrchu adroddiad terfynol, dilys. a
  • Cynhyrchu bwletin dysgu cryno i'w ddosbarthu ymhellach os oes angen.

7. Allbwn Gofynnol o'r Adolygiad

Canlyniad yr Adolygiad fydd 'adroddiad cyffredinol' manwl yn cynnwys canfyddiadau saith agwedd graidd yr Adolygiad (ac unrhyw faterion sy'n codi yn ystod yr adolygiad a ystyrir yn arwyddocaol yng nghyd-destun y cwmpas). Bydd yr adroddiad cyffredinol yn gwneud argymhellion i'r Bwrdd Iechyd i fwrw ymlaen ag unrhyw ddysgu.  Bydd yr Adroddiad yn sicrhau bod yr holl data staff a defnyddwyr gwasanaethau a gwybodaeth archwiliad yn ddienw trwy atodiadau sydd yn eithrio FOIA.

Bydd y Panel Goruchwylio yn darparu diweddariad misol ar gynydd i'r Bwrdd Iechyd.

Bydd diweddariadau rheolaidd yn cael eu cyhoeddi wrth i'r Adolygiad fynd yn ei flaen.

8. Mynediad i Ddogfennau

Bydd y Bwrdd Iechyd yn cydweithio â'r Timau Adolygu i ddarparu dogfennaeth / mynediad at wybodaeth / staff yn ôl yr angen.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn deall y gallai unrhyw oedi wrth ddarparu staff neu wybodaeth ddilys i'w hadolygu effeithio ar amserlenni, dibynadwyedd a chost ffrydiau gwaith yr Adolygiad. Gweler adnoddau.

9. Cydberthyniad ymwneud teuluol ag achosion cyfreithiol     

Ni fydd cyfraniadau gan deuluoedd ym mhob agwedd o'r Adolygiad yn effeithio nac yn effeithio ar unrhyw rwymedi cyfreithiol y gallent fod yn ei ddilyn neu yn dymuno ei ddilyn yn y dyfodol.  Ymhellach, fel y nodir uchod, bydd unrhyw gyfraniadau sy'n ffurfio rhan o'r adroddiad terfynol yn gwbl ddienw cyn eu cyhoeddi a bydd eu cyfrinachedd wedi'i sicrhau.

10. Amserlen

Y nod yw i'r Adolygiad ddod i ben o fewn 12 mis, unwaith y bydd y timau adolygu wedi derbyn yr holl wybodaeth sylfaenol ar gyfer adolygiad. Gall yr amserlen Adolygu cael eu hestyn yn dibynnu ar y lefel o achosion hunantagyfeiriad i'w hystyried. Bydd unrhyw risgiau adrannol uniongyrchol yn cael eu hadolygu ar ddechrau'r Adolygiad er mwyn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr gwasanaeth.

11. Adnoddau

Bydd adnoddau ar gyfer yr Adolygiad yn cael eu trefnu gan y Bwrdd Iechyd, gan nodi y bydd adnoddau o'r fath, cyn belled ag y bo modd, yn cael eu comisiynu o ffynhonnell annibynnol. Fodd bynnag, mae'r Bwrdd Iechyd yn cydnabod y bydd gofyniad adnoddau sylweddol ar gyfer timau mewnol er mwyn cyflenwi'r wybodaeth sydd ei hangen i gynnal adolygiad o'r math hwn. Mae angen i hyn cael ei asesu'n llawn ar gyfer yr effeithiau ar berfformiad gweithredol yn ystod amserlen yr adolygiad. Bydd y tîm adolygu clinigol yn benodol yn gofyn am gofnodion gofal a dogfennau cysylltiedig ag achos mewn fformat sy'n drefnus ac yn hygyrch.

ATODIAD

Mehefin 2019

Archwiliad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (HIW):

  1. Uned Esgor:
  2. Ward 18 a Ward 19 (gan gynnwys Uned Asesu Cyn Geni); ac
  3. Uned dan Arweiniad Bydwreigiaeth, Ysbyty Singleton.

 

Hydref 2019

Archwiliad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

Canolfan Geni Ysbyty Gogledd Port Talbot

 

Mai 2022

Sicrwydd Fframwaith Rhwydwaith mamolaeth a newyddenedigol sy'n cynnwys tri argymhelliad allweddol yr adroddiad gan:

  1. Ymddiriedolaeth Ysbyty Amwythig a Thelford;
  2. Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf; ac
  3. Adolygiad Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (2020): Gwasanaethau Mamolaeth

 

Awst 2022

Rhwydwaith Mamolaeth a Newyddenedigol: Adolygu Proses Llywodraethu Gwasanaethau Mamolaeth.

 

Ionawr 2023

Ymweliad safle Rhaglen Gwella Bydwreigiaeth a Newyddenedigol Llywodraeth Cymru.

 

Gorffennaf 2023

Gwella gyda'n gilydd i Gymru: Rhaglen Cymorth Diogelwch Mamolaeth a Newyddenedigol Cymru - Adroddiad Cam Darganfod (Gorffennaf 2023).

Medi 2023

Archwiliad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

  1. Uned Mamolaeth, Ward 20 Singleton;
  2. Ward 19;
  3. Uned Asesiad Cynenedigol (AAU); 
  4. Ward esgor (gan gynnwys ystafell galar);
  5. Uned Bae Genedigaeth; ac
  6. Uned Dibyniaeth Isel.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.