Masgiau a phellter cymdeithasol: Oherwydd y cynnydd yn nifer yr achosion o COVID-19 yn ein cymunedau, rydym yn annog staff gofal iechyd ac ymwelwyr yn gryf i wisgo gorchudd wyneb ym mhob un o’n lleoliadau, yn enwedig mewn ardaloedd clinigol a’r rhai â nifer uchel o ymwelwyr. Defnyddiwch agwedd synnwyr cyffredin a chyfrifoldeb personol i'n helpu i leihau effaith COVID-19 ar ein cleifion, gweithlu a gwasanaethau. Yn ogystal â gwisgo gorchudd wyneb, mae'n bwysig parhau i gadw pellter cymdeithasol lle bo modd. Diolch am eich cefnogaeth a’ch cydweithrediad parhaus ar yr adeg hon. Rydym yn parhau i adolygu ein cyngor yn rheolaidd yn seiliedig ar fynychder yn ein cymunedau a'n hysbytai.
Tudalen wedi'i diweddaru: 21/12/2021
Oherwydd y pandemig coronafirws parhaus (COVID-19) ,mae gwasanaethau iechyd fel meddygfeydd, mae cemegwyr lleol ac ysbytai yn brysur iawn.
Cofiwch archebu'ch meddyginiaeth reolaidd gan eich meddyg teulu, fferyllfa leol neu arbenigwr arall mewn digon o amser, cyn i chi redeg allan.
Bydd yr adran arennol yn Ysbyty Treforys yn parhau i gyflenwi meddyginiaeth yr ydym fel arfer yn ei rhoi i chi. Os ydych chi'n derbyn meddyginiaeth gan yr adran arennol, archebwch nhw yn y ffordd arferol. Gwnewch yn siŵr nad ydych chi'n rhedeg allan o feddyginiaeth.
Gwybodaeth Cyswllt:
Gwasanaeth Meddyginiaethau Arennol, Ysbyty Treforys:
Ffôn : 01792 531293
Neges testun SMS: 07860017368
E-bost: abm.renalmedicinesService@wales.nhs.uk
Gwasanaeth Anemia Arennol, Ysbyty Treforys:
Ffôn : 01792 703392
Gwybodaeth ddefnyddiol:
Sylwir os gwelwch yn dda bod rhai dolenni allanol ddim ar gael yn y Gymraeg.