Mae Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (DESW) yn wasanaeth Cymru gyfan sydd wedi'i gynllunio i ganfod retinopathi diabetig sy'n bygwth y golwg yn gynnar cyn i golli golwg ddigwydd, gan sicrhau triniaeth gynnar ac atal colli golwg mewn 70% i 90% o bobl â retinopathi diabetig sy'n bygwth y golwg.
Darperir y gwasanaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i gyflwyno mewn amrywiaeth o ysbytai, clinigau gofal iechyd lleol ac unedau symudol ledled Cymru.
Noder nad yw'r gwasanaeth hwn yn disodli eich archwiliad golwg blynyddol yn eich optegydd lleol.
Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael rhagor o wybodaeth am sgrinio llygaid diabetig.
Ewch i'r dudalen hon i ddod o hyd i optegydd lleol.
Mae gwybodaeth am ein Hadran Offthalmoleg ar gael yma.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.