Mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn wasanaeth sy’n cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ac mae’n wasanaeth sy’n caniatáu ichi riportio marwolaeth i’r rhan fwyaf o sefydliadau’r llywodraeth ar yr un pryd. Mae hyn yn cynnwys y DVLA, y Swyddfa Basbort, holl wasanaethau Awdurdod Lleol, holl wasanaethau DWP, megis Pensiynau’r Wladwriaeth neu Gymhorthdal Incwm, ac unrhyw wasanaethau CThEM (Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi).
Ar adeg y cofrestriad, gall y cofrestrydd roi rhif cyfeirnod unigryw i chi a fydd yn cael ei ddefnyddio i hysbysu adrannau amrywiol y llywodraeth ac awdurdodau lleol am y farwolaeth. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rhoi i chi gan y cofrestrydd yn eich apwyntiad.
Gallwch naill ai ffonio’r gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith neu lenwi ffurflen ar-lein, ond rhaid gwneud hyn o fewn 28 diwrnod i gael eich cyfeirnod unigryw gan y cofrestrydd. I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi wrth law:
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.