Gall marwolaeth fod yn drallodus iawn ac mae galaru yn ymateb dynol arferol i golled neu farwolaeth. Gall galar effeithio ar bobl mewn llawer o wahanol ffyrdd, ac mae pobl yn teimlo llawer o bethau gwahanol - mae'n brofiad unigryw a phersonol, a does dim ffordd gywir nac anghywir i deimlo pan fyddwch chi'n galaru.
Yn aml gall yr elfennau ymarferol a'r tasgau i'w gwneud yn dilyn marwolaeth gymryd drosodd a chymryd llawer o'ch amser yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf. Yn aml, gall hyn ymddangos yn llethol ar adegau tra’ch bod yn galaru, neu i’r gwrthwyneb efallai y gwelwch na fydd eich galar yn eich ‘taro’ yn llwyr nes bod yr holl bethau ymarferol wedi’u cwblhau.
P’un a oes angen cymorth arnoch yn gynnar yn eich profedigaeth neu’n ddiweddarach yn y dyfodol, gall y Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth helpu i’ch cefnogi. Nid yw'r tîm yn gwnselwyr, ond maent wedi'u hyfforddi mewn Cymorth Profedigaeth ac yn gweithio gydag ystod eang o bobl a phartïon i'ch helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch. Mae rhai o’r bobl y mae’r tîm yn gweithio gyda nhw wedi’u rhestru yn adran ‘Cymorth Pellach’ y llyfryn hwn, ac mae rhifau cyswllt y Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth ar y dudalen agoriadol.
Sylwch nad yw’r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth yn gallu darparu cymorth mewn argyfwng ac nad ydynt yn darparu llinell gymorth 24 awr, ond os ydych yn teimlo bod angen i chi siarad â rhywun ar frys, gallwch ffonio’r naill neu’r llall o’r opsiynau cymorth isod:
'Nid yw galar yn anhwylder, yn glefyd nac yn arwydd o wendid.
Mae'n anghenraid emosiynol, corfforol ac ysbrydol, y pris rydych chi'n ei dalu am gariad.
Yr unig iachâd i alar yw galaru'
Earl Grollman
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.