Bydd y Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth yn paratoi'r gwaith papur angenrheidiol ac yn cysylltu â phobl eraill sydd fel arfer yn gysylltiedig yn dilyn marwolaeth, megis y cofrestrydd, archwiliwr meddygol neu swyddfa'r crwner. Cewch ragor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn ar ein tudalennau gwe eraill.
Yn y lle cyntaf, cysylltwch â’r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth yn yr ysbyty perthnasol:
Treforys: 01792 703114
Singleton: 01792 285818
Castell-nedd Port Talbot: 01639 683139
Byddant yn egluro beth sy'n digwydd nesaf o ran y Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth, a elwir weithiau'n Dystysgrif Marwolaeth neu'n Dystysgrif Feddygol.
Bydd y tîm yn gofyn i chi:
Byddwch yn gallu gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych i'r tîm a byddant yn gallu eich cefnogi. Gallwch ffonio'r tîm gymaint o weithiau ag y dymunwch, a byddant yn cadw mewn cysylltiad â chi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd y gwaith papur. Gallant hefyd roi cyngor i chi ar eiddo eich perthynas/ffrind.
Os ydych chi'n teimlo eich bod chi'n cael trafferth, gallant hefyd helpu i ddod o hyd i'r gefnogaeth gywir i chi yn ystod eich profedigaeth, felly gofynnwch a ydych chi'n meddwl y byddai hyn o gymorth i chi.
Yn ein hysbytai llai fel arfer mae Tystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth yn cael ei chwblhau ar y ward. Siaradwch â thîm y ward neu'r meddyg a byddant yn gallu rhoi cyngor ar gynnydd y gwaith papur.
Fodd bynnag, gall y Gwasanaeth Gofal ar ôl Marwolaeth eich helpu gyda hyn os ydych yn teimlo bod angen cymorth arnoch. Gallwch gysylltu â nhw ar: 01792 703327
Gallant gysylltu â'r ward a'r meddyg ar eich rhan, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd y gwaith papur, yn ogystal â chysylltu â phobl eraill sydd fel arfer yn gysylltiedig yn dilyn marwolaeth, megis y cofrestrydd, archwiliwr meddygol neu swyddfa'r crwner. Cewch ragor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn ar ein tudalennau gwe eraill. Gallant hefyd roi cyngor i chi ar eiddo eich perthynas/ffrind.
Bydd y tîm yn gofyn i chi:
Byddwch yn gallu gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych i'r tîm a byddant yn gallu eich cefnogi. Gallwch ffonio'r tîm gymaint o weithiau ag y dymunwch, a byddant yn cadw mewn cysylltiad â chi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd y gwaith papur.
Os ydych chi'n teimlo eich bod chi'n cael trafferth, gallant hefyd helpu i ddod o hyd i'r gefnogaeth gywir i chi yn ystod eich profedigaeth, felly gofynnwch a ydych chi'n meddwl y byddai hyn o gymorth i chi.
Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, fel arfer meddyg teulu'r claf fyddai'n cwblhau Tystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth pan fydd person yn marw gartref neu mewn cartref preswyl/gofal. Os ydych yn gwybod pwy yw meddyg teulu eich perthynas/ffrind, gallwch gysylltu â nhw am ragor o wybodaeth.
Os yw'r farwolaeth yn sydyn, yn annisgwyl neu os nad yw eich meddyg teulu wedi gweld eich perthynas/ffrind yn ddiweddar, efallai y bydd swyddfa'r crwner yn gysylltiedig. Efallai y bydd y meddyg teulu neu'r heddlu (os yw'n bresennol) yn gallu rhoi cyngor i chi ar hyn. Mae rhagor o wybodaeth am rôl y crwner ar ein tudalennau gwe eraill.
Fodd bynnag, gall y Gwasanaeth Gofal ar ôl Marwolaeth eich helpu yn y naill amgylchiad neu'r llall, os teimlwch fod angen unrhyw gymorth arnoch. Gallwch gysylltu â nhw ar: 01792 703327
Gallant gysylltu â'r meddyg teulu neu'r crwner, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd y gwaith papur, yn ogystal â chysylltu â phobl eraill sydd fel arfer yn gysylltiedig yn dilyn marwolaeth, megis y cofrestrydd neu archwiliwr meddygol. Fe welwch ragor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn ymhellach ymlaen yn y llyfryn hwn.
Bydd y tîm yn gofyn i chi:
Byddwch yn gallu gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych i'r tîm a byddant yn gallu eich cefnogi. Gallwch ffonio'r tîm gymaint o weithiau ag y dymunwch, a byddant yn cadw mewn cysylltiad â chi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd y gwaith papur.
Os ydych chi'n teimlo eich bod chi'n cael trafferth, gallant hefyd helpu i ddod o hyd i'r gefnogaeth gywir i chi yn ystod eich profedigaeth, felly gofynnwch a ydych chi'n meddwl y byddai hyn o gymorth i chi.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.