Ymunais â’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) fel Seicolegydd Cynorthwyol ym mis Ebrill 2023.
Mae gen i brofiad blaenorol o weithio fel Seicolegydd Cynorthwyol mewn gwasanaethau anabledd dysgu oedolion.
Mae fy rôl bresennol yn ymwneud â hyrwyddo'r defnydd o fesurau canlyniadau o fewn CAMHS i gefnogi perthnasoedd therapiwtig a nodi meysydd i'w gwella. Efallai y byddwch hefyd yn fy ngweld yn ystod rhai o’ch apwyntiadau neu sesiynau grŵp, lle rwyf bob amser yn awyddus i helpu a gwrando ar unrhyw bryderon sydd gennych.