Neidio i'r prif gynnwy

Seicoleg plant - Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot

Beth mae seicolegwyr yn ei wneud?

Fel seicolegwyr clinigol rydym wedi cael ein hyfforddi i helpu pobl i ddeall a rheoli eu meddyliau, eu teimladau a'u hymddygiad.

Gallwn weithio mewn nifer o wahanol leoliadau a gall y timau gynnwys seicolegwyr clinigol dan hyfforddiant a seicolegwyr cynorthwyol.

Byddwn yn gwrando ar bryderon plant a rhai eu rhieni/gofalwyr. Byddwn yn gofyn pa nodau ar gyfer newid sydd gan blant a theuluoedd, cyn gweithio ar y cyd i ddechrau rheoli'r pryderon hyn fel y gall pobl symud yn nes at eu nodau.

Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl pan welwch chi seicolegydd.
Rydyn ni'n Dydyn ni ddim yn
hoffi siarad â chi a gwrando arnoch chi. gwneud unrhyw brofion meddygol neu eich archwilio.
gofyn am unrhyw broblemau a allai fod gennych. darllen meddyliau.
gofyn amdanoch chi - eich hoff a'ch cas bethau, yr ysgol a'r cartref. gwneud penderfyniadau ar eich rhan.
chwarae gemau, tynnu lluniau a gwneud pethau.

barnu pobl.

cymryd eich pryderon o ddifrif a gwneud ein gorau i'ch helpu i deimlo'n well. beirniadu neu ddweud y drefn wrth bobl.

 

Gyda beth gall seicolegwyr helpu?

Mae seicolegwyr plant yn canolbwyntio ar helpu pobl i fwrw ymlaen â byw eu bywydau yn y ffordd y maen nhw'n dymuno. Efallai y byddwn yn helpu plant a theuluoedd i feddwl am eu cryfderau a sut i ddefnyddio’r rhain i oresgyn unrhyw heriau. Efallai y byddwn hefyd yn siarad am bethau y mae plant a theuluoedd yn eu cael yn anodd, neu amseroedd y mae pobl yn teimlo'n isel neu'n bryderus, a gweithio gyda phlant, eu teulu a'r rhai o'u cwmpas i ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi â'r rhain neu eu goresgyn. Fel arfer byddwn hefyd yn siarad â phlant a theuluoedd am bethau sy'n dda i'w lles a sut i gynnwys y rhain yn eu bywydau bob dydd.

I rai plant a theuluoedd efallai mai dim ond unwaith y bydd angen i ni gwrdd, neu efallai y byddwn yn cytuno y gallai mwy o apwyntiadau fod o gymorth. Weithiau mae seicolegwyr yn gweithio gyda'r bobl allweddol ym mywyd plentyn yn unig, ac yn helpu'r bobl hynny i gefnogi'r plentyn eu hunain.

 

 

Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl pan welwch chi seicolegydd

Mae apwyntiad seicoleg yn rhoi'r cyfle i chi drafod eich pryderon. Gellir trefnu apwyntiadau fel ein bod yn cyfarfod wyneb yn wyneb, fel arfer mewn ysbyty neu leoliad iechyd arall. Weithiau efallai y byddwn yn cytuno i drefnu apwyntiad trwy Attend Anywhere (system fideo ar gyfer apwyntiadau iechyd) neu dros y ffôn.

Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl pan welwch chi seicolegydd:

 
Byddwn ni'n Efallai byddwn ni'n
Siarad â chi am sut mae pethau'n mynd ar hyn o bryd (e.e. yn yr ysgol).

Gofyn i chi gadw dyddiadur o deimladau neu ymddygiadau penodol fel y gallwn ni eu deall nhw yn well.

 

Meddwl am unrhyw heriau rydych chi eisiau rhywfaint o help gyda nhw. Chwarae gemau arbennig a thynnu lluniau i ddod i'ch adnabod chi yn well.
Cwrdd â'ch teulu, naill ai gyda chi neu ar wahân os yw hyn yn gweithio orau. Siarad am eich iechyd yn unig.
Siarad am y pethau rydych chi'n mwynhau eu gwneud. Eich gwahodd chi i weithdy gyda phobl ifanc eraill.

Efallai mai dim ond unwaith y bydd angen i chi gyfarfod, neu efallai byddwn ni'n cytuno y byddai mwy o gyfarfodydd yn ddefnyddiol. Byddwn ni'n siarad am hyn pan fyddwn yn cyfarfod am y tro cyntaf.