Rydw i wedi bod yn gweithio fel rhan o’r tîm hollt ers Rhagfyr 2020.
Rwy’n gweithio gyda llawer o bobl, o bob oed, sydd wedi’u geni â gwefus/taflod hollt ac yn eu gweld ar wahanol adegau o’u taith.
Fy mhrif swydd yw cefnogi pobl os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon a'u helpu i oresgyn y rhain.