Helo, fy enw i yw Judith Storey ac rwy'n seicolegydd clinigol.
Rwy'n gwasanaethu Hafan y Môr a Chanolfan Plant Castell-nedd a Phort Talbot.
Rwy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol, eu teuluoedd a’u gofalwyr, a’r staff sy’n eu cefnogi.
Pan fydd plant a’u teuluoedd yn dod i’m gweld, gofynnaf iddynt geisio egluro i mi beth y maent yn ceisio cymorth ar ei gyfer a pham. Rwyf hefyd yn gwneud hyn gyda staff sy'n ceisio cyngor.
Rwy'n credu bod pobl yn arbenigwyr ar eu bywydau eu hunain a'r materion y maent yn gobeithio mynd i'r afael â hwy. Felly, gwelaf ein bod yn gweithio gyda’n gilydd fel tîm. Rwy'n gweithio gyda phobl i weld a oes modd, neu a oes angen i unrhyw beth gael ei wneud yn wahanol ganddynt hwy eu hunain neu gan eraill yn eu bywydau.
Rwy'n gwneud hyn gan ddefnyddio llawer o wahanol ddulliau yn dibynnu ar y person a'r sefyllfa. Gallai gynnwys siarad a gofyn llawer o gwestiynau, gwrando ar yr hyn sydd gennych i'w ddweud, ysgrifennu pethau i lawr, tynnu llun, ac ar adegau, chwarae gemau a chael hwyl.
Rwy'n gobeithio bod hyn wedi egluro'r hyn y gallwch ei ddisgwyl os dewch i'm gweld. Mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych os byddwn yn cyfarfod.