Neidio i'r prif gynnwy
Dr. Helen Watkins

Amdanaf i

Fi yw'r Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol Arweiniol ar gyfer y gwasanaeth Seicoleg Llosgiadau.

Cymhwysais yn 2000 a gweithiais mewn amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys Gofal Dwys Cyffredinol cyn ymuno â'r gwasanaeth Llosgiadau yn 2014.

Rwy’n mwynhau gweithio yn y rôl hon yn fawr gan ein bod yn gallu gweld cleifion a’u teuluoedd yn fuan ar ôl dioddef eu hanaf tra byddant yn yr ysbyty, yn ogystal ag yn ein clinigau cleifion allanol, felly rydym yn aml yn dod i adnabod ein cleifion a’n teuluoedd yn dda iawn.

Rydym yn gweithio gyda phobl o bob oedran ac mae ein gwaith gyda phlant a theuluoedd yn cynnwys eu helpu i ddelio ag anawsterau seicolegol a all godi ar ôl anaf llosgi, gan adeiladu ar y cryfderau sydd ganddynt yn aml yn barod i'w helpu i addasu i'r heriau hyn.

Rydym yn rhan o’r tîm llosgiadau amlddisgyblaethol ehangach ac yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr i ddarparu’r gofal gorau posibl i’n holl gleifion a’u teuluoedd.