Amanda ydw i ac rydw i'n seicolegydd clinigol.
Dechreuais yn fy swydd ym mis Ebrill 2023 i ddatblygu’r Gwasanaeth Seicoleg Pediatrig ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n defnyddio Canolfan Llawfeddygaeth Blastig Cymru.
Byddaf yn cynnig cymorth i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd i’w helpu i ddeall ac ymdopi ag unrhyw heriau seicolegol sy’n codi o ganlyniad i fod angen llawdriniaeth gosmetig.
Byddaf yn gweithio’n agos gyda’r tîm amlddisgyblaethol llawfeddygaeth blastig ehangach i sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael y gofal gorau sydd ar gael pan fo angen.