Helo, Fy enw i yw Rebecca. Rwy'n Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol, yn gweithio ym maes Seicoleg Iechyd Plant. Rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o fy ngyrfa yn gweithio gyda phlant a theuluoedd, yn aml gyda phlant a phobl ifanc ag anableddau dysgu neu gyflyrau meddygol.
Ymunais â GPPS yn 2021. Rwy’n teimlo’n freintiedig i allu cyfarfod a siarad â phlant a phobl ifanc sy’n cael amser anodd oherwydd eu cyflwr meddygol. Rwy’n hoff iawn o weithio gyda phlant, ond rwyf hefyd yn hoffi siarad â’u teuluoedd a’u meddygon, eu nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, achos dw i'n credu bod plant yn aml yn dechrau teimlo’n well yn gyflymach pan fyddwn ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd. Fi yw cynrychiolydd Cymru ar y Rhwydwaith Seicoleg Pediatrig, sef rhan o Gymdeithas Seicolegol Prydain.