Neidio i'r prif gynnwy
Dr. Aimee Pudduck

Amdanaf i

Fi yw'r Seicolegydd Clinigol Arweiniol Ymgynghorol sy'n gweithio yng Nghanolfan Gwefus a Thaflod Hollt Cymru yn Ysbyty Treforys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Ymunais â’r tîm ym mis Chwefror 2023.

Ers cymhwyso yn 2009, rwyf wedi gweithio mewn lleoliadau amrywiol sy’n ymwneud â phlant a theuluoedd gan gynnwys gweithio yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS), gwasanaethau iechyd meddwl cleifion mewnol y glasoed, ac mewn gwasanaethau ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal.

Rwyf hefyd wedi gweithio fel Uwch Diwtor Clinigol ar Raglen Doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol De Cymru, ac yn parhau i gynnig rhai sesiynau i gynnal fy niddordebau ymchwil ac academaidd mewn dulliau seicolegol o weithio gyda phlant a theuluoedd, ymlyniad, gofal wedi’i lywio gan drawma, niwroamrywiaeth a goruchwyliaeth yn y proffesiynau cynorthwyol.