Fy enw i yw Maddie ac rwy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes a'u teuluoedd.
Weithiau mae gen i seicolegwyr clinigol dan hyfforddiant yn gweithio gyda mi.
Rydyn ni'n cwrdd â theuluoedd i'w helpu i ddod i arfer â byw gyda diabetes, i wneud yn siŵr nad yw diabetes yn amharu gormod ar sut maen nhw am fyw eu bywyd ac i'w helpu i ddal ati os yw'n dechrau teimlo'n anodd.
Rydym yn gweithio gyda rhieni i gefnogi eu lles eu hunain a’u teulu ac i’w helpu i drafod rhai o’r penblethau magu plant ychwanegol y gall diabetes yn aml eu cyflwyno.