Neidio i'r prif gynnwy
Dr. Tom Henwood

Amdanaf i

Rwy'n seicolegydd clinigol gyda'r Gwasanaeth Seicoleg Pediatrig Cyffredinol.

Mae fy ngwaith yn cynnwys cynnig cymorth i blant, pobl ifanc a gweithio gyda'u teuluoedd i ddeall a rheoli'r cysylltiadau rhwng cyflwr iechyd corfforol y plentyn a'u lles meddyliol yn well. Nod fy rôl yw galluogi pobl ifanc i archwilio eu problemau a'u hanawsterau sy'n gysylltiedig ag iechyd mewn man agored a diogel a chwilio am ffyrdd o wneud yr heriau hyn yn haws eu rheoli.

Rwyf hefyd yn seicolegydd clinigol o fewn Canolfan Gwefus a Thaflod Hollt Cymru.

Cymhwysais o Brifysgol Caerdydd a bûm yn gweithio mewn gwasanaethau gofal dementia cyn i mi ymuno â'r tîm hollt yn 2020. Rwy'n gweithio gyda phobl o bob oedran ac yn helpu i'w cefnogi nhw a'u teuluoedd trwy'r ystod eang o heriau seicolegol y gall pobl eu profi trwy gael eu geni â gwefus hollt a / neu daflod hollt.

Rwy’n gweithio’n agos gydag aelodau eraill o’r tîm hollt i sicrhau bod ein cleifion yn cael y cymorth seicolegol sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt.